Osbert Fynes-Clinton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Un o [[tafodieitheg|dafodieithegydddafodieithegwyr]] cynnar y [[Cymraeg|Gymraeg]] oedd '''Osbert Henry Fynes-Clinton''' (1869 - 1941). Hanodd Fynes-Clinton o [[Manceinion|Fanceinion]], yn fab i reithor Barlow Moor ger Didsbury. Cafodd ei addysg yng [[Coleg Sant Ioan, Rhydychen|Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen]], lle astudiodd ieithoedd modern. Bu'n athro [[Ffrangeg]] yn [[King Edward's School]], Aston, [[Birmingham]] tan [[1904]], pryd penodwyd yn athro Ffrangeg yng [[Coleg Prifysgol Gogledd Cymru|Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru]], Bangor. Arhosodd yn ardal [[Bangor]] hyd ei farwolaeth yn [[1941]], ac roedd ei ddiddordeb yn nhafodiaith yr ardal yn dyddio o'r adeg honno. Ei brif waith yw geiriadur [[tafodiaieth Bangor]] ''The Welsh vocabulary of the Bangor district'' a gyhoeddwyd yn [[1913]]. Roedd wedi'i seilio ar waith maes a gyflawnwyd rhwng 1904 a 1912. Defnyddiodd Fynes-Clinton siaradwyr y tafodiaeth leol a anwyd rhwng 1835 a 1859 o [[Bangor]], [[Pentir]], [[Abergwyngregyn|Aber]] a [[Llanfairfechan]]. Mae'r gwaith yn eithriadol ymysg [[tafodieitheg]] y cyfnod am ei drylwyredd a'i gywirdeb gwyddonol.
 
[[Categori:Ieithyddion]]