Ffrisiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: ehangu
Tagiau: Golygiad cod 2017
B →‎Hanes: ailadrodd gair
Llinell 17:
 
== Hanes ==
Roedd y Ffrisiaid cyntaf yn byw ar hyd yr arfordir isel ger [[Môr y Gogledd]] rhwng aber [[Afon Rhein]] yn yr Iseldiroedd ac [[Afon Ems]] yn yr Almaen, ac yn [[Ynysoedd Ffrisia]] ger arfordiroedd yr Almaen a [[Denmarc]]. Ceir y cofnod cynharaf ohonynt yn y 1g. Roeddent yn bobl forwrol, [[môr-ladron]] a masnachwyr, ac yn cadw [[gwartheg]]. Adeiladant aneddiadau ar [[annedd bryn gwneud|dwmpathau gwneud]] ([[Hen Ffriseg]]: ''terp''; lluosog: ''terpen'') i warchod rhag llifogydd.<ref name=Mackenzie/> Yn [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|yr oes Rufeinig]], llwyddasant i gadw draw o ddylanwadau'r Rhufeiniaid a fabwysiadwyd gan lwythau Germanaidd eraill megis y [[Ffranciaid]], y [[Bwrgwyniaid]], a'r [[Alemaniaid]]. Roeddynt yn debycach felly i'r [[Daniaid (llwyth Almaenig)|Daniaid]] paganaidd felly nag yr oeddynt i lwythau'r de.
 
Gorchfygwyd [[Teyrnas Ffrisia]] gan y Ffranciaid yn 734 a chawsant eu troi'n [[Yr Eglwys Gatholig|Gatholigion]], un o'r llwythau Germanaidd olaf i droi at Gristnogaeth. Buont yn gwrthsefyll yr ymdrechion hyn, a llofruddiwyd y cennad [[Sant Boniffas, Apostl yr Almaenwyr|Boniffas]] ger Dokkum yn 754. Wedi buddugoliaeth [[Siarlymaen]] dros [[Widukind]] yn 785, meddianwyd holl diriogaeth y Ffrisiaid gan [[Teyrnas y Ffranciaid|Deyrnas y Ffranciaid]]. Cytunodd y pendefigion i ildio i'r Ffranciaid ac i dderbyn defodau'r Eglwys, er i'r werin addoli'r hen dduwiau paganaidd am sawl canrif arall.