Cymanfa ganu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Gwasanaeth canu [[emyn]]au [[Cymraeg]] yw '''Cymanfa Ganu'''. Dechreuodd fel gwasanaethau canu emynau gan eglwysi [[Anghydffurfiaeth|Anghydffurfiol]] [[Cymru]] yn y [[19g]], o tua [[1830]] ymlaen. Canu cynulleidfaol ydyw gyda nifer o leisiau.
 
Ar y cychwyn roedd y Gymanfa Ganu yn achlysur pur ffurfiol gyda chanu disgybliedig, ond gyda dyfodiad y nodiant cerddorol [[tonic sol-ffa]] a wnaeth hi'n haws i bobl gyffredin ddarllen [[cerddoriaeth]], daeth elfen o rwyddindeb i mewn a dechreuodd nifer o bobl mynd i'r Gymnafa Ganu er mwyn cael cydganu'n hwyliog. Ar ei anterth roedd miloedd o leisiau'n ymuno mewn cyngerddau fel y gyfres a gynhaliwyd yn Neuadd Frenhinol Albert gan [[Cymry Llundain|Gymry Llundain]] yn yr [[20g]]. Ymledodd y Gymanfa Ganu i gymunedau Cymraeg tramor, fel yn yr [[Unol Daleithiau]].
 
{{eginyn Cerddoriaeth Cymru}}