Rowland Huw Pritchard: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no|suppressfields=dinasyddiaeth|nationality={{banergwlad|Cymru}}|dateformat=dmy}}
Roedd '''Rowland Huw Prichard''' ([[15 Ionawr]], [[1812]]<ref name=bedydd/><ref>Yn ôl ei gofnod bedd fe'i ganwyd ym 1812 nid 1811, fel mae nifer o ffynonellau diweddarach yn ddweud</ref> - [[25 Ionawr]], [[1887]]) yn wehydd a cherddor Cymreig. <ref>{{Cite web|title=PRICHARD, ROWLAND HUW (1811 - 1887), cerddor {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PRIC-HUW-1811|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2019-09-08}}</ref>
 
== Cefndir ==
Llinell 7:
 
== Gyrfa ==
Roedd Prichard yn gweithio fel gwehydd gan gadw siop werthu brethyn yn y [[Bala]] am sawl flwyddyn. Ym 1880 symudodd i [[Treffynnon|Dreffynnon]] i weithio fel swyddog i gwmni gwneud gwlanen ''The Welsh Flannel Manufacturing Co''.
 
== Cerddor ==
[[Delwedd:Hyfrydol.png|chwith|bawd|Hyfrydol]]
Dysgodd gerddoriaeth yn ieuanc, a fu yn amlwg yn ei gyfraniad i gerddoriaeth grefyddol y [[Eglwys Bresbyteraidd Cymru|Methodistiaid Calfinaidd]] trwy ei oes. Roedd yn arwain y canu yn Sasiynau'r Bala ac yn dysgu cerddoriaeth yn yr [[ysgol Sul]]. Wedi dyfeisio'r Tonic[[tonic Sol Ffasol-ffa]] gan [[John Curwen]] bu Prichard yn frwd dros ei gyflwyno i'r ysgolion Sul fel modd hawdd o ddysgu cerddoriaeth ac i wella canu emynau yng ngwasanaethau ei enwad. Pan gafodd Curwen, gwahoddiad, i Gymanfa Gerddorol a gynhaliwyd yng [[Castell Rhuthun|Nghastell Rhuthun]] dan nawdd [[William Cornwallis-West]], cafodd Pritchard wahoddiad i gyfarfod ag ef i dderbyn cyfarwyddyd ar y ffordd orau o gyflwyno'r dull newydd o addysg gerddorol. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4486925|title=Y DIWEDDAR ROWLAND HUGH PRITCHARD O'R BALA - Y Genedl Gymreig|date=1887-02-16|accessdate=2019-09-08|publisher=Thomas Jones}}</ref>
 
Cyhoeddodd lawer am gerddoriaeth. Ym 1844 cyhoeddodd Cyfaill y Cantorion a oedd yn cynnwys tua 40 o donau. Roedd ei lyfryn Y Fasged Gerddorol, yn grynodeb o egwyddorion cerddoriaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Cyhoeddodd nifer fawr o donau i emynau ac anthemau a phrofodd yn boblogaidd iawn yn y capeli anghydffurfiol. Mae'n debyg mae ei emyn dôn fwyaf poblogaidd yw ''[[Hyfrydol]]'' sy'n cael ei ddefnyddio fel tôn i'r emynau "''O! Llefara, addfwyn Iesu''" ([[William Williams (Pantycelyn)|William Williams Pantycelyn]]) yn Gymraeg neu "''Love Divine, all loves excelling''" ([[Charles Wesley]]) yn Saesneg