Cristnogaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 52:
Fodd bynnag, y newid mwyaf amlwg a welwyd yn hanner cyntaf y 19eg ganrif oedd y cynnydd aruthrol yn nifer yr eglwysi ledled Cymru. Rhwng 1800 a 1850, amcangyfrifir bod achos newydd wedi ei sefydlu yng Nghymru, ar gyfartaledd, bob pum wythnos. Yn 1775 yr oedd tua 100 o eglwysi Annibynnol yng Nghymru; erbyn 1851, yr oedd 684 ohonynt. Cafwyd cynnydd ar raddfa debyg yn y weinidogaeth, o 46 gweinidog ym 1800, i 319 ym 1851. Gwelwyd cynnydd tebyg ymysg y Methodistiaid Calfinaidd a’r Bedyddwyr. Ni ddylid rhoi’r argraff bod hwn yn gynnydd cyson. Trwy gydol y 19eg ganrif, bu cyfres o ddiwygiadau crefyddol, pob un gyda’i gylch a’i ddylanwad ei hun. Roedd arwyddion bod yr Anghydffurfwyr yn datblygu’n garfan ddylanwadol dros ben yng Nghymru.
 
Wrth i nifer yr Ymneulltuwyr gynyddu yn ystod y 19eg ganrif, cynyddodd hefyd eu teimlad o gyfrifoldeb dros y gymdeithas gyfan. Wrth ddod yn ymwybodol o’u nerth cymdeithasol, daethant i sylweddoli y gallent ddylanwadu ar wleidyddiaeth a chyfrannu at lunio byd fyddai’n cyfateb i’w delfrydau. Daeth y capeli yn lleoedd prysur dros ben wrth i’w gweithgarwch ymestyn i feysydd eraill ym mywyd Cymru. Sefydlwyd cymdeithasau llenyddol a grwpiau drama, trefnwyd clybiau cynilo, a chynhaliwyd nosweithiau cymdeithasol a thripiau Ysgol Sul. Yn y cyfnod hwn hefyd y daeth canu cynulleidfaol i fri, agwedd o addoliad a ddaeth yn nodweddiadol o grefydd Cymru. Cynhaliwyd y Gymanfa Ganu gyntaf yn Aberdâr ym 1859, a thros y blynyddoedd canlynol bu symlrwydd y Tonic[[tonic Solsol-ffa]] yn allweddol i’r cynnydd ym mhoblogrwydd y Gymanfa.
 
Oherwydd iddynt ymddangos yng Nghymru yng nghyfnod y Chwyldro Piwritanaidd, bu’r Ymneilltuwyr yn ymhél â gwleidyddiaeth o’u dyddiau cynnar. Collwyd rhywfaint o’r agwedd wleidyddol honno yn ystod y 18g, ond cafwyd adfywiad wrth iddynt fagu hyder yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Dechreuasant ymgyrchu yn erbyn y Deddfau Prawf a Chorfforaethau a’u cadwant yn ddinasyddion eilradd, ac yn erbyn anghyfiawnder y drefn gaethwasiaeth. Carreg filltir bwysig yn neffroad gwleidyddol yr Anghydffurfwyr oedd cyhoeddi’r Llyfrau Gleision ym 1847. Er mai adroddiadau ar addysg yng Nghymru oedd y Llyfrau Gleision, yr oeddent yn cynnwys ensyniadau difrifol ynghylch moesoldeb y Cymry a chafwyd adwaith ffyrnig iddynt o du’r Anghydffurfwyr. Y brif ymgyrch wleidyddol yn y cyfnod hwn oedd honno i ddatgysylltu’r Eglwys Anglicanaidd oddi wrth y wladwriaeth, i’w gwneud yn ‘enwad’ cyfartal â’r Ymneilltuwyr yn hytrach nac yn eglwys ‘swyddogol’. I ddechrau, ymunodd Ymneilltuwyr Cymru gyda’u cymdogion yn Lloegr i alw am ddatgysylltu’r Eglwys yn gyfan gwbl, ond wrth iddynt gynyddu eu dylanwad yng Nghymru, sylweddolwyd y byddai gwell gobaith o lwyddiant pe byddent yn canolbwyntio ar ddatgysylltu yng Nghymru yn unig. Ac felly y bu. Erbyn diwedd y ganrif, yr oedd ymdrech gydwybodol yn cael ei gwneud gan Ymneilltuwyr Cymru i ddatgysylltu’r Eglwys yn eu gwlad eu hunain.