Beirdd a gyfansoddoddgyfansoddai caneuonganeuon yn [[Ocsitaneg]] yn ystod yr [[Oesoedd Canol]] mewn llysoedd ar draws Ewrop ond yn bennaf yn ne [[Ffrainc]] oedd y '''trwbadwriaid''' ([[Ocsitaneg]]: ''trobadors''). Roedd y trwbadwriaid ymhlith y cyntaf i feithrin y ffenomen lenyddol a elwir yn gyffredinol '[[serch llys]]' ([[Saesneg]]: ''courtly love''; [[Ocsitaneg]]: ''fin' amor''). Mae tua hanner y 2,600 o ganeuon y trwbadwriaid sydd ar glawr yn ''cansos'', sy'n canu clodydd merched. Mae'r ''genres'' eraill yn cynnwys cerddi dychanol[[dychan]]ol a gwleidyddol (''sirventés'') a galarnadau ar gyfer noddwyr (''planhs''). Mae enwau rhyw 460 o drwbadwriaid yn hysbys. Roedd rhai, fel y trwbadŵr hysbys cyntaf, [[Guilhem de Peitieus]] (1071-1126), yn uchelwyr, ond daeth lleill, gan gynnwys [[Bernart de Ventadorn]] (tua 1135-1195), o dras werinol. Mae nifer o ganeuon gan trwbadwriaid benywaidd (''trobairitz'') wedi goroesi hefyd. Dechreuodd canu'r trwbadwriaid edwino yn Ocsitania wedi'r [[Groesgad]] yn erbyn y [[Albigensiaid]] (1209-1229) ond erbyn hynny roeddent wedi gadael marc annileadwy ar y dychymyg Ewropeaidd.
== Llyfryddiaeth ==
* Simon Gaunt, Simon,anda Sarah Kay, ''The Troubadours: An Introduction'' (CambridgeCaergrawnt: Cambridge University Press, 1999)