Castell Cricieth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Paul-L (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
ailsgwennu a threfnu, ychwanegiadau |
||
Llinell 1:
[[Castell]] [[Yr Oesoedd Canol|canoloesol]] ar glogwyn ar lan [[Bae Tremadog]], ar ymyl tref [[Cricieth]], [[Gwynedd]], yng ngogledd [[Cymru]], yw '''Castell Cricieth'''. Mae gan y castell tŷ porth cadarn a thri thŵr a gysylltir gan lenfur amgylchynnol. Mae ar rhestr [[Cadw]].
[[Delwedd:Castell Cricieth.jpg|de|bawd|300px|Y castell]]▼
==Hanes==
===Cyfnod y ddau Lywelyn===
Adeiladwyd y castell yn y [[13eg ganrif|drydedd ganrif ar ddeg]] gan [[Llywelyn ap Iorwerth]] (Llywelyn Fawr), Tywysog [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a'i ŵyr, [[Llywelyn ap Gruffydd]]. Dechreuodd Llywelyn Fawr ar y gwaith tua'r flwyddyn [[1230]] gan godi tŷ porth trawiadol, tŵr petryal de-ddwyreiniol a llenfur oddi amgylch y cwrt mewnol. Ymddengys na ddefnyddiwyd y safle cyn hynny. Mae un traddodiad yn honni fod [[Llywelyn ap Iorwerth]] wedi cael ei garcharu yn y castell am gyfnod byr gan ei frawd [[Dafydd ap Iorwerth|Dafydd]] yn ystod y brwydro dros olyniaeth coron Gwynedd.
Ychwanegodd Llywelyn ap Gruffudd y llenfur oddi amgylch rhan o'r ward allanol, a'r tŵr de-orllewinol lle cafwyd enghreifftiau cain o gerfwaith carreg pan archwilwyd y safle gan archaeolegwyr.
===Ym meddiant y Saeson===
Cafodd y castell ei gipio gan [[Edward I o Loegr|Edward I]], brenin [[Lloegr]], yn ystod ei ail ryfel ar Gymru ([[1282]] - [[1283|83]]). Cryfhaodd Edward y castell, yn bennaf y tŷ porth, prif amddiffyn y castell. Nid yw'n sicr os dylir priodolir y trydydd tŵr i Edward I ynteu Llywelyn ein Llyw Olaf (yn erbyn ei ddyddio i gyfnod Edward y mae'r ffaith ei fod yn dŵr hirsgwar tebyg i dyrrau eraill a geir mewn rhai o'r cestyll Cymreig).
Yn ail hanner y [[13eg ganrif]] y marchog enwog [[Syr Hywel y Fwyall]] oedd Cwnstabl (ceidwad) y castell.
===Gwrthryfel Glyndŵr===
[[Category:Cestyll Cymru|Cricieth]]▼
Yn ystod gwrthryfel [[Owain Glyndwr]] cafodd y castell ei gipio ac ei losgi. Disgrifir y digwyddiad a'r amgylchiadau lleol yn nofel hanesyddol cofiadwy [[John Griffith Williams|J.G. Williams]], ''Betws Hirfaen'' (gw. isod).
==Llyfryddiaeth==
*Richard Avent, ''Cestyll Tywysogion Gwynedd'' (Caerdydd, 1983).
*J.G. Williams, ''Betws Hirfaen'' (Dinbych, 1968)
[[Categori:Cricieth]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[en:Criccieth Castle]]
|