Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Libanus"

Ychwanegwyd 1,705 beit ,  6 mis yn ôl
Hanes ddiweddar (o fr:)
B
(Hanes ddiweddar (o fr:))
 
* [[Sidon]]
* [[Tyrus]]
 
== Hanes Ddiweddar ==
Cyhoeddodd Libanus ei hanibyniaeth [[22 Tachwedd]] [[1943]], gan gadw ffiniau Libanus Fawr ([[1920]] - [[1926]]), wedi misoedd o brotestio. Ymddangosodd arweinwyr megis [[Béchara el-Khoury]] a [[Riad El Solh]], a datblygodd y syniad o gyfamod cenedlaethol ble fyddai'r system wleidyddol yn gweithio'n drawsgymunedol, gyda'r Arlywydd yn dod o'r gymuned fwslemaidd a'r Prif Weinidog o'r gymuned gristnogol er enghraifft.
 
Cyfeirid at y wlad fel "Swistir y Dwyrain Canol" rhwng y 1950au a'r 1970au, oherwydd presenoldeb nifer o fanciau, wrth i economi Libanus ddatblygu'n gyflym ochr yn ochr ag isadeiladwaith a'r wladwriaeth, yng nghyfnodau [[Camille Chamoun]] a [[Fouad Chéhab]] yn arlywyddion.
 
Ar yr un pryd, roedd Libanus hefyd yn wynebu tensiynau cymdeithasol, ynghyd â chanlyniadau creu gwladwriaeth [[Israel]]. Mudodd 120,000 o Balesteiniaid i'r wlad o [[1948]] ymlaen. Tynnwyd Libanus fesul dipyn i'r [[Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd]], yn enwedig wedi diwedd y 1960au gyda [[Cytundeb Cairo|Chytundeb Cairo]] a [[Mis Medi Du]]. Ystyrir i'r cytundeb gwthio'r wlad tua'r [[Rhyfel Cartref Libanus|rhyfel cartref]] a barodd rhwng [[1975]] a [[1990]], gyda chymysgedd o ffactorau gwleidyddol, crefyddol a'r [[maffia]].
 
Meddianwyd Libanus gan Syria wedi [[Cytundeb Taëf]] ym [[1989]], gan barhau felly nes [[2005]]. Ansefydlog bu hanes cynnar Ail Weriniaeth Libanus, gyda'r [[Gwrthdaro Libanus 2007|gwrthdaro yn 2007]] a 2008, ac eto yn 2014-2016 cyn ethol [[Michel Aoun]] yn arlywydd. Ochr yn ochr â hynny, mae'r wlad yn parhau i wynebu problemau sylweddol o'i hamgylch, gan gynnwys [[Rhyfel Libanus 2006|rhyfel gydag Israel yn 2006]] yn ogystal â [[Gwrthryfel Syria]].
 
== Diwylliant ==