Afon Brenig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Afon]] yng ngogledd [[Cymru]] yw '''Afon Brenig''', sy'n dechrau ei thaith yn [[Sir Ddinbych]] ac yn ei gorffen yn [[Sir Conwy]]. Crëwyd cronfa [[Llyn Brenig]] drwy godi [[argae]] ar draws Afon Brenig yn y 1970au. Hyd: tua 4 milltir.<ref name="OS 122">Map OS 122 ''Landranger''.</ref>
 
Mae tarddle'r afon yn ucheldir [[Mynydd Hiraethog]] yn Sir Ddinbych. Cyn codi'r argae roedd hi'n llifo trwy ardal gorsiog tua 3 milltir i'r de o bentref [[Nantglyn]].<ref name="OS 122"/> Dechreuwyd adeiladu'r argae ar yr afon yn [[1973]] a gorffenwyd y gwaith yn [[1976]]. Mae'r llyn yn dal 60 miliwn [[m³]] o ddŵr, ac yr oedd wedi llenwi erbyn [[1979]]. Llyn Brenig yw'r llyn mwyaf yng Nghymru o ran arwynebedd, tua 920 acer, ond mae [[Llyn Tegid]]) yn dal mwy o ddŵr.
 
Ar ôl gadael Llyn Brenig llifa'r afon i gyfeiriad y de i aberu yn [[Afon Alwen]] ger [[Pentre-llyn-cymmer]], 3 milltir i'r gogledd o [[Cerrigydrudion|Gerrigydrudiion]].<ref name="OS 122"/>