William Owen (Prysgol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 10:
Roedd Prysgol yn aelod brwdfrydig o'r achos dirwest (pobl oedd yn gwrthwynebu yfed diodydd alcoholig) a dechreuodd cyfansoddi tonau ar gyfer emynau dirwestol pan oedd yn 18 oed. Yn ddiweddarach yn ei fywyd bu'n arwain corau dirwestol mawr ac yn arwain cymanfaoedd dirwest. Ymddangosodd ei emyn dôn cyntaf i'w cyhoeddi, o'r enw ''Langport'', yng nghylchgrawn Y Drysorfa ym mis Mai 1841. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2635491/2869986/31 Y Drysorfa Rhif CXXV - Mai 1841; Langport gan Wm Owen, Cilmelyn, Bangor] adalwyd 29 Hydref 2019</ref>. Ym 1852 cyhoeddodd casgliad o'i gyfansoddiadau ''Y Perl Cerddorol yn cynnwys tonau ac anthemau, cysegredig a moesol'' ail gyhoeddwyd y llyfr ym 1886 gyda nodiant sol-ffa.
 
Tonau mwyaf adnabyddus Prysgol yw ''Prysgol'' sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer emyn [[Ann GriffithGriffiths]] ''O am bara i uchel yfed'' (Caneuon Ffydd tôn 590; emyn 723) a "''[[Bryn Calfaria" (emyn dôn)|Bryn Calfaria]]'' sy'n cael ei ddefnyddio fel y dôn arferol ar gyfer yr emyn [[William Williams (Pantycelyn)|Pantycelyn]] ''Gwaed dy Groes sy'n codi i fynnu'' (Caneuon Ffydd tôn 416; emyn 494). <ref>{{Cite book|title=Caneuon ffydd.|url=https://www.worldcat.org/oclc/57019600|publisher=Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol|date=2001|location=Caernarfon|isbn=1903754011|oclc=57019600}}</ref>
 
 
==Teulu==
Ym 1844 priododd Margaret Lloyd merch Humphrey Lloyd, fferm y Prysgol, [[Caeathro]], [[Caernarfon]] <ref>[https://coflein.gov.uk/cy/site/16781/details/prysgol Coflein Cadw Cymru – Prysgol] </ref> cawsant wyth o blant. Parhaodd i weithio yn y chwarel am ddwy flynedd cyn derbyn y cyfrifoldeb o ffermio tir y Prysgol gan ei dad yng nghyfraith. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3586392|title=CYFANSODDWR PEN CALFARIA - Papur Pawb|date=1893-08-05|accessdate=2019-10-29|publisher=Daniel Rees}}</ref>
 
Wedi priodi daeth Prysgol yn flaenor ac yn godwr canu yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghaeathro. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3450811|title=Marwolaeth Mr William Owen Prysgol - Y Cymro|date=1893-07-27|accessdate=2019-10-29|publisher=Isaac Foulkes}}</ref>