Castell Cricieth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ychwanegiad
Llinell 8:
Ychwanegodd Llywelyn ap Gruffudd y llenfur oddi amgylch rhan o'r ward allanol, a'r tŵr de-orllewinol lle cafwyd enghreifftiau cain o gerfwaith carreg pan archwilwyd y safle gan archaeolegwyr.
 
===Ym meddiant yCoron SaesonLloegr===
Cafodd y castell ei gipio gan [[Edward I o Loegr|Edward I]], brenin [[Lloegr]], yn ystod ei ail ryfel ar Gymru ([[1282]] - [[1283|83]]). Cryfhaodd Edward y castell, yn bennaf y tŷ porth, prif amddiffyn y castell. Nid yw'n sicr os dylir priodolir y trydydd tŵr i Edward I ynteu Llywelyn ein Llyw Olaf (yn erbyn ei ddyddio i gyfnod Edward y mae'r ffaith ei fod yn dŵr hirsgwar tebyg i dyrrau eraill a geir mewn rhai o'r cestyll Cymreig).
 
Llinell 15:
===Gwrthryfel Glyndŵr===
Yn ystod gwrthryfel [[Owain Glyndwr]] cafodd y castell ei gipio ac ei losgi. Disgrifir y digwyddiad a'r amgylchiadau lleol yn nofel hanesyddol cofiadwy [[John Griffith Williams|J.G. Williams]], ''Betws Hirfaen'' (gw. isod).
 
==Disgrifiad Iolo Goch o'r castell==
Canodd y bardd [[Iolo Goch]] [[Cywydd|gywydd]] i Syr Hywel y Fwyall, rywbryd yn y [[1370au]] efallai. Erbyn yr amser hynny roedd y castell wedi troi'n llys i'r uchelwr lleol o Gymro. Disgrifia Iolo'r castell uwchben tonnau geirw'r môr, y gwŷr wrth y byrddau'n chwareu gemau a'r merched yn llunio brodwaith wrth i'r haul disgleirio trwy'r ffenestri gwydr (peth prin iawn yn y cyfnod hwnnw oedd gwydr):
:Cyntaf y gwelaf mewn gwir
:Caer fawrdeg acw ar fordir,
:A chastell gwych gorchestawl,
:A gwŷr ar fyrddau, a gwawl,
:A glasfor wrth fur glwysfaen,
:A geirw am groth tŵr gwrm graen...
:A'i llawforynion ton teg --
:Ydd oeddynt hwy bob ddeuddeg
:Yn gwau sidan glân gloywliw
:Wrth haul belydr drwy'r gwydr gwiw.
 
==Llyfryddiaeth==
*Richard Avent, ''Cestyll Tywysogion Gwynedd'' (Caerdydd, 1983).
*Enid Roberts, ''Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650'' (Cyhoeddiadau Barddas, 1986)
*J.G. Williams, ''Betws Hirfaen'' (Dinbych, 1968)