Inuit: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Breckenheimer (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Inuit_women_1907.jpg|200px|bawd|Merch Inuit, 1907]]
 
'''Inuit''' (unigol: '''Inuk''') yw'r enw cyffredinol am grwpiau o bobl brodorol sy'n rhannu nodweddion [[diwylliant]] mewn cyffredin ac sy'n byw yn ardaloedd [[Arctig]], [[Alaska]], [[Greenland]], a [[Canada]] ([[Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin]] a [[Nunavut]], talaith [[Québec (talaith)|Quebec]] a gogledd [[Labrador]]). Hyd yn ddiweddar maen' nhw wedi rhannu ffordd o fyw hynod agos, sy'n dibynnu'n draddodiadol ar bysgota a [[hela]] mamaliaid y môr a'r tir am hanfodion fel bwyd, gwres, golau, dillad, offer a chysgod. Mae'r iaith [[Inuit (iaith)|Inuit]] yn cael ei dosbarthu gyda'r [[ieithoedd Esgimo-Aleut]]. Ceir tua 150,000 o bobl Inuit heddiw. O ran crefydd mae'r mwyafrif yn [[Cristnogaeth|Gristnogion]] neu'n [[Shamaniaeth|Shamaniaid]].
 
Mae Inuit Canada yn byw yn bennaf yn nhiriogaeth [[Nunavut]], [[Nunavik]] yng ngogledd [[Quebec]], ac yn ardal breswyl Inuit [[Nunatsiavut]] yn [[Labrador]]. Mae'r [[Inuvialuit]] yn byw yn ardal delta [[Afon Mackenzie]], ar [[Ynys Banks]], ac ar rannau o [[Ynys Victoria (Canada)|Ynys Victoria]] yn Nhiriogaethau'r Gogledd-orllewin. Ar un adeg ceid trigfannau Inuit yn [[Yukon]], yn arbennig ar [[Ynys Herschel]], ond maent wedi darfod erbyn heddiw. Mae [[Inupiaq]] [[Alaska]] yn byw ar Ogwedd Orllewinol Alaska a [[Gorynys Seward]].