Craith (cyfres deledu): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Dim crynodeb golygu
Llinell 29:
Rhaglen ddrama drosedd Gymraeg yw '''''Craith''''' wedi ei leoli yn ardal [[Eryri]].
 
Crëwyd y gyfres gan Mark Andrew ac Ed Talfan. Awduron y gyfres yw Caryl Lewis, Jeff Murphy a James Rourke. Cynhyrchir y gyfres gan gwmni Severn Screen ar gyfer [[S4C]] a [[BBC Cymru]] a bydd yn cael ei werthu'n rhyngwladol gan All3Media International. Darlledir y fersiwn Gymraeg ''Craith'' ar S4C gyda fersiwn dwyieithog, ''Hidden'' i'w ddangos yn ddiweddarach ar BBC One Wales ac ar BBC Four dros y Deyrnas Unedig.<ref>{{dyf gwe|url=https://www.s4c.wales/c_press_level2.shtml?id=3710|teitl=Tair drama i danio'r dychymyg - yn dechrau gyda Bang... |cyhoeddwr=S4C|dyddiad=10 Awst 2017|dyddiadcyrchiad=21 Awst 2017}}</ref> Enillodd y gyfres wobr BAFTA Cymru 2018 am Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/530915-gwobrau-bafta-cymru-2018-enillwyr|teitl=Gwobrau BAFTA Cymru 2018 – yr enillwyr|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=15 Hydref 2018}}</ref> Darlledir y rhaglen ar S4C nos Sul rhwng 21:00 a 22:00, mewn slot a ddaeth yn arferol ar gyfer dangos cyfresi drama newydd.
 
O Fangor, dros ddyfroedd Afon Menai, i hen chwareli Llanberis, dyma dirwedd sy’n adnabyddus i DI Cadi John. Doedd hi erioed wedi disgwyl dychwelyd yma. Wedi ei thynnu'n ôl am resymau personol - iechyd difrifol ei thad annwyl - mae Cadi yn darganfod ei hun yn plismona pentrefi a phobl ei ieuenctid. Mae'n swydd y mae hi'n ei mwynhau. Fodd bynnag, pan ddatgelir corff dynes leol mewn afon anghysbell, mae byd Cadi - a byd y rhai o'i chwmpas - yn newid am byth.
 
Mae'r ddrama wedi ei lleoli yn y gogledd orllewin, o amgylch dinas [[Bangor]] a lleoliadau ym [[Parc Cenedlaethol Eryri|Mharc Cenedlaethol Eryri]]. Cychwynwyd ffilmio'r gyfres ar leoliad yn Awst 2017.<ref>{{dyf gwe|url=http://www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2017/hidden-bbc-wales|teitl=Filming starts on new BBC Wales and S4C crime series: Hidden/Craith|cyhoeddwr=BBC|dyddiad=1 Awst 2017|dyddiadcyrchiad=6 Ionawr 2018|iaith=en}}</ref> Cafodd y cynhyrchiad ei ariannu gan S4C, BBC Cymru a thrwy Gyllid Buddsoddi yn y Cyfryngau Llywodraeth Cymru, wedi eu cynghori gan Pinewood Pictures. Bydd yr holl ffilmio yn cael ei wneud mewn lleoliadau o amgylch Cymru gyda'r gwaith ôl-gynhyrchu yng Nghymru hefyd.
 
==Cynhyrchiad==
Darlledir y rhaglen ar S4C nos Sul rhwng 21:00 a 22:00, mewn slot a ddaeth yn arferol ar gyfer dangos cyfresi drama newydd.
Cychwynwyd ffilmio'r gyfres ar leoliad yn Awst 2017.<ref>{{dyf gwe|url=http://www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2017/hidden-bbc-wales|teitl=Filming starts on new BBC Wales and S4C crime series: Hidden/Craith|cyhoeddwr=BBC|dyddiad=1 Awst 2017|dyddiadcyrchiad=6 Ionawr 2018|iaith=en}}</ref> Cafodd y cynhyrchiad ei ariannu gan S4C, BBC Cymru a thrwy Gyllid Buddsoddi yn y Cyfryngau Llywodraeth Cymru, wedi eu cynghori gan Pinewood Pictures. Bydd yr holl ffilmio yn cael ei wneud mewn lleoliadau o amgylch Cymru gyda'r gwaith ôl-gynhyrchu yng Nghymru hefyd.
 
Cyhoeddwyd bod ail gyfres ar y gweill ym mis Medi 2018. Dywedodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales: “Roedd Hidden yn boblogaidd iawn ymhlith cynulleidfaoedd yng Nghymru ac ar draws y DU, felly does dim syndod ein bod eisiau comisiynu ail gyfres. Mae’r gyfres ddrama drosedd dywyll hon yn fwy bygythiol byth gyda tirwedd garw gogledd Cymru yn gefndir i’r cyfan. Bydd yr ail gyfres yn mynd â ni i Flaenau Ffestiniog, ac rwy’n siŵr y bydd cynulleidfaoedd yr un mor gyffrous â mi i weld y ddrama afaelgar hon yn dychwelyd”.