Brychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Pennaeth Llanfaes ger Aberhonddu (5g), tad i nifer o seintiau. Rhoddodd ei enw i Brycheiniog a sefydlwyd gan ei feibion.
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Brenin a sant oedd '''Brychan''' (fl. 5ed ganrif), sefydlwr teyrnas Brycheiniog (yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru) yn ôl traddodiad. Fel sant dydd ei ŵyl yw 5 Ebrill...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 22:57, 1 Ionawr 2007

Brenin a sant oedd Brychan (fl. 5ed ganrif), sefydlwr teyrnas Brycheiniog (yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru) yn ôl traddodiad. Fel sant dydd ei ŵyl yw 5 Ebrill.

Niwlog ac amhendant yw llawer o'r dystiolaeth amdano (efallai'n cynrychioli mwy nag un ffigwr o'r enw). Dywedir ei fod o dras Wyddelig a'i fod yn frenin cynnar ar Frycheiniog. Dywedir ymhellach ei fod yn fab i Farchell, ferch Tewdrig, brenin Garthmadrun. Yn ôl traddodiad croesodd Marchell i Iwerddon a phriododd y tywysog Anlach fab Coronac. Ganed plentyn i Farchell yn Iwerddon.

Pan ddychwelasant i Gymru bu farw Tewdrig a chymerodd Brychan drosodd fel brenin Garthmadrun a newidiodd enw'r deyrnas honno i Frycheiniog (ond mae'n fwy tebygol i hynny ddigwydd yn hwyrach ymlaen, er cof am Frychan).

Roedd Brychan yn dad i bedwar ar hugain o blant yn ôl traddodiad (ffigwr a geir yn aml mewn llên gwerin, e.e. meibion Llywarch Hen). Tyfai'r rhan fwyaf ohonyn nhw i fyny i fod yn seintiau gan sefydlu eglwysi ledled y wlad. Cyfeirir at deulu ("llwyth") Brychan yn y Trioedd fel un o "dri llwyth seintiau Cymru" (ynghyd â theuluoedd Caw a Chunedda.

Enwir nifer o eglwysi, yn y de a'r canolbarth yn bennaf, ar ôl Brychan a'i ddisgynyddion; ffaith sy'n awgrymu fod Brycheiniog yn ystod ei deyrnasiad yn ganolfan Gristnogol bwysig.