Christopher Newport: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 6:
 
== Trefedigaethu Virginia (1606–12) ==
Dyrchafwyd Newport i reng prif feistr [[y Llynges Frenhinol]] yn 1606. Y flwyddyn honno, cafodd ei ddewis gan [[Cwmni Virginia|Gwmni Virginia]] i arwain menter drefedigaethol i'r Byd Newydd. Hwyliodd o Lundain yn Rhagfyr 1606, yn ben ar longau'r ''Discovery'', ''Godspeed'', a'r ''Susan Constant''. Cyrhaeddodd [[Bae Chesapeake|Fae Chesapeake]] ar 26 Ebrill 1607, a glaniodd yn Cape Henry. Penodwyd Newport yn aelod o gorff llywodraethol y wladfa. Ar 13 Mai 1607 sefydlwyd hefyd gwladfa fewndirol, ar orynys yn Afon James, a gafodd ei henwi'n Jamestown ar ôl [[Iago I, brenin Lloegr|y Brenin Iago]]. Rhwng 1606 a 1611, arweiniodd Newport bum mordaith rhwng Virginia a Lloegr, gan gludo chyflenwadau a rhagor o setlwyr i'r egin-wladfa. Ar un o'r mordeithiau, yn 1609, gyrrwyd ei long ar [[rîff]] ger [[Bermwda]], a bu'n rhaid i'r criw a'r teithwyr adeiladu cychod newydd. Ni chyrhaeddasant Jamestown nes bron i flwyddyn gyfan ar ôl y llongdrylliadllongddrylliad.<ref name=EB/>
 
== Ei wasanaeth i Gwmni India'r Dwyrain (1612–17) ==