Isotta Nogarola: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B tr
Llinell 2:
[[Bardd]] ac [[ysgolhaig]] o [[Eidales]] oedd '''Isotta Nogarola''' ([[1418]] – [[1466]]) sy'n nodedig fel un o brif lenorion a meddylwyr benywaidd [[y Dadeni]].
 
Ganwyd i deulu bonheddig yn [[Verona]], [[Gweriniaeth Fenis]]. Cafodd addysg [[dyneiddiaeth|ddyneiddiol]] dan diwtoriaeth Martino Rizzoni (1404–88), a dysgodd [[Lladin|Ladin]], [[athroniaeth foesol]], barddoniaeth, ac hanes. Roedd yn hynod o anarferol i ferch dderbyn addysg o'r fath, a ni chafodd wersi [[rhethreg]], sef pwnc a ddysgid gan ddynion ifainc yn unig. Ysgrifennodd sawl traethawd yn Lladin, ac ysgrifennodd lythyr at [[Guarino da Verona]] yn mynnu ei fentoriaeth. Fe'i anwybyddwyd am flwyddyn cyfangyfan cyn iddi dderbyn ymateb dirmygus.<ref name=Greenhaven>Tom Streissguth, ''The Greenhaven Encyclopedia of the Renaissance'' (Farmington Hills, Michigan: Greenhaven Press, 2008), tt. 229–30.</ref>
 
Aeth Nogarola i [[Fenis]] yn 1438 wedi i Verona gael ei tharo gan [[y pla]]. Denodd sylw am geisio ymddadlau â'r ysgolheigion gwrywaidd yno, a chafodd ei beirniadu a'i dychanu am ei hymdrechion. Dychwelodd i'w theulu yn Verona yn 1441 ac yno astudiodd [[y Beibl]] a'r awduron clasurol. Yng nghanol y 15g, cafodd nifer o'i llythyrau eu copïo a'u darllen ar draws gogledd a chanolbarth [[yr Eidal]]. Ynddynt mae hi'n mynegi ei chyfuniad o [[moeseg Gristnogol|foeseg Gristnogol]] ac athroniaeth ddyneiddiol y Dadeni. Yn 1451 cafodd Nogarola ddadl â'r diplomydd Ludovico Foscarini, ac ar sail yr ohebiaeth hon ysgrifennodd ymgom am stori [[Gardd Eden]] a chwymp y ddynolryw. Cyhoeddwyd y gwaith hwnnw wedi ei marwolaeth, ynghyd â'i cherdd ''Elegia de Laudibus Cyanei Ruris''. Bu farw, heb briodi, oddeutu 48 oed.<ref name=Greenhaven/>