Sarn Helen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 8:
Credir ei bod wedi dilyn llinell y ffordd bresennol heibio [[Trawsfynydd]]. Mae'n debygol ei bod yn pasio'n agos i safle'r gar fechan yn y [[Brithdir]], ger [[Dolgellau]], sy'n sefyll ar y ffordd Rufeinig i/o [[Caer Gai|Gaer Gai]], ger [[Llyn Tegid]], a [[Caer|Chaer]]. Er nad oes olion, credir ei bod wedi cadw at ochr ddwyreiniol [[Cadair Idris]] nes cyrraedd caer fechan [[Pennal]]. Efallai fod rhan o'r lein bach rhwng [[Aberllefenni]] a Maespoeth yn dilyn cwrs y ffordd Rufeinig.
 
Nid oes sicrwydd lle'n union yr oedd cwrs y ffordd i'r de o Bennal, ond gellir gweld rhan ohoni ger pentref [[Lledrod]] yn [[Sir Aberteifi]], ar ei ffordd tua'r gaer yn [[Caer Llanio|Llanio]]. Yn [[Llanfair Clydogau]] mae'n fforchio, gydag un fforch yn arwain i'r dwyrain heibio [[Llanymddyfri]] a [[Dolaucothi]] i ''Nidum'' ([[Castell Nedd]]), a'r llall yn mynd yn ei blaen i gyfeiriad Caerfyrddin.
 
==Caerau ar Sarn Helen==