Trawscoed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
==Caer Rufeinig y Trawscoed==
Darganfuwyd caer y Trawscoed yn 1959. Mae'n gorwedd ar darn o dir gwastad ar lan ogleddol [[afon Ystwyth]] (cyfeirnod OS: 670 727). Mae'n amlwg iddi gael ei chodi gan y [[Rhufeiniaid]] i warchod [[rhyd]] bwysig ar [[Sarn Helen]], y ffordd Rufeinig bwysicaf yng ngorllewin Cymru, sy'n cysylltu caer Rufeinig [[Caerhun]] yn y gogledd a dinas gaerog [[Maridunum]] yn y de. Mae'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng caer [[Pennal]] i'r gogledd a [[Caer Llanio|Llanio]] i'r de. Damcaniaethir fod ffordd Rufeinig arall yn rhedeg rhwng y Trawscoed a chaerau [[Caersws]], gyda chaer fechan [[Cae Gaer]] yn ddolen rhyngddyn nhw.
 
Mae llwybr y B4575 fodern yn rhedeg trwy'r safle. Mae'r gaer yn mesur tua 2 hectar. Dim ond olion y muriau allanol - o dywarch a phren yn wreiddiol - sydd i'w gweld. Credir mai byr fu parhad y gaer ar ôl iddi gael ei chodi yn negawdau olaf y [[ganrif 1af]] OC.