Bryn-y-Gefeiliau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
nn
cadw
Llinell 1:
[[Delwedd:Caer llugwy.jpg|250px|bawd|Safle caer Rufeinig Bryn-y-Gefeiliau.]]
Safle [[Caerau Rhufeinig Cymru|caer Rufeinig]] yng ngogledd [[Cymru]], dwy filltir i'r dwyrain o [[Capel Curig|Gapel Curig]] yn [[Eryri]] yw '''Bryn-y-Gefeiliau'''; {{gbmapping|SH746572}}. Enwir y safle ar ôl ffermdy Bryn-y-Gefeiliau gerllaw (enw arall arni yw '''Caer Llugwy''', enw a fathwyd gan y cloddwyr archaeolegol yn y 1920au).
 
Mae olion y gaer yn gorwedd ar safle isel ar lan ddeheuol [[Afon Llugwy]], ger Pont Cyfyng a thua 1 filltir i'r gorllewin o'r [[Rhaeadr Ewynnol]]. Mae'n sefyll ar wely o dir nad yw ond troedfedd yn uwch na lefel gorlifiad yr afon. Byddai'r ardal hon yn un wyllt ag anghysbell yng [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|nghyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru]], mewn cwm cul yng nghanol coedwigoedd Eryri.
Llinell 11:
 
Mae dyddio'r gaer yn broblematig. Dim ond un darn o arian bath a gafwyd ar y safle, a hynny'n rhy dreuliedig i ddangos enw'r ymerodr. Dibynnir ar dystiolaeth y darnau [[crochenwaith]] ar y safle i'w ddyddio. Mae'r rhain yn cynnwys darnau o lestri o waith Samaidd o gyfnod yr ymerodr [[Titus Flavius]] ac eraill o'r [[Almaen]] a chanolbarth [[Gâl]] sydd i'w dyddio i gyfnod [[Antoninus Pius]]. Ar sail y dystiolaeth hon awgrymir fod y gaer wedi cael ei sefydlu tua'r flwyddyn [[90]] a bod y Rhufeiniaid wedi rhoi'r gorau iddi rywbryd ar ôl tua [[150]].
 
Mae'r safle yng ngofal [[CADW]] ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr [[heneb]] hon gyda'r rhif SAM unigryw: CN010. <ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref>
 
==Ffynhonnell==
*Grace Simpson, 'Caerleon and the Roman forts in Wales in the second century AD. Part 1: Caerleon and Northern Wales', ''Archaeologia Cambrensis'' CXI (1962).
 
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}