Y Sblot: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle| suppressfields = cylchfa| ynganiad = {{wikidata|property|P443}}
|gwlad={{banergwlad|Cymru}}}}
 
[[Delwedd:Cardiff ward location - Splott.png|bawd|dde|250px|Lleoliad ward y Sblot o fewn Caerdydd]]
 
Ardal yn ninas [[Caerdydd]], prifddinas [[Cymru]], yw '''Y Sblot''' neu '''Sblot''' ([[Saesneg]]: ''Splott'') ac ardal ddeheuol hen blwyf [[Y Rhath]] sydd wedi'i lleoli rhwng y môr a phrif lein y rheilffordd. Agorwyd y cyntaf o [[maes awyr|feysydd awyr]] sifil Cymru ar Rostir Pen-Gam yn 1930 a'i chau yn 1954. Bellach, ceir yma: barciau busnes, tai, gwaith trin dŵr a Chanolfan Tennis Genedlaethol Cymru. Cwbwlhawyd Cysylltffordd Dwyrain y Bae ar ddechrau'r 2010au a disgwylir i'r ardal ddatblygu'n economaidd.<ref>Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008.</ref>
 
===Yr enw===
Daw'r enw o'r gair Hen Saesneg ''splott'' sy'n golygu 'darn o dir' (''plot''). Arosai'r enw'n fyw ar lafar yn ne-orllewin [[Lloegr]] am glwt o dir ac mae'n digwydd mewn enwau lleoedd am gaeau a ffermydd yn yr ardal honno. Dichon i'r enw tarddu o gyfnod y [[Normaniaid]]. Ei ystyr yn syml felly yw 'clwt' neu 'ddryll' o dir. Ceir manylion pellach yn llyfr [[Bedwyr Lewis Jones]], ''Yn ei Elfen''.
 
===Hanes===
Ardal wledig a oedd yn eiddo i'r Eglwys oedd Sblot yn y Canol Oesoedd, ond erbyn 1891 roedd tai wedi eu hadeiladu ar gyfer gweithwyr gwaith dur ''East Moors'' ond caewyd y gwaith yn 1987.
 
===Ffuglen===
* [[Siôn Eirian]], ''Bob yn y Ddinas''. Nofel am gymeriadau Sblot.