John Luxmoore: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 8:
Wedi coleg penodwyd Luxmoore yn diwtor i Iarll Dalkeith (a daeth wedyn yn Ddug Buccleuch). O dan nawdd y dug, cafodd nifer o benodiadau eglwysig: daeth yn rheithor San Siôr y Merthyr, Sgwâr y Frenhines, [[Llundain]] ym 1782; yn brebend Caergaint ym 1793, yn ddeon Caerloyw ym 1799, ac yn rheithor Taynton, Swydd Gaerloyw, ym 1800. Ym 1806 cyfnewidiodd San Siôr y Merthyr am St Andrew's, Holborn. Ym 1807 daeth yn esgob Bryste ac ym 1808 trosglwyddwyd ef i esgobaeth Henffordd. Wedi marwolaeth William Cleaver ym 1815 penodwyd Luxmoore yn Esgob Llanelwy yn ei le. Parhaodd yn Llanelwy hyd ei farwolaeth. <ref>[https://archive.org/details/historyofdiocese00thom/page/n251|Thomas, David Richard ''Esgobaeth Llanelwy: the history of the diocese of St Asaph''; tudalen 251]</ref>
 
Ac eithrio cyhoeddi tri o'i bregethau, prin oedd cyfraniad Luxmoore i fywyd crefyddol Lloegr na Chymru. Mae o'n cael ei ystyried fel enghraifft bur o'r fath o ddyn oedd yn derbyn uchel swyddi eglwysig er mwyn ennill safle a chyfoeth personol a theuluol. <ref>[https://archive.org/details/historyofdiocese00thom/page/152|Thomas, David Richard '' Esgobaeth Llanelwy: the history of the diocese of St Asaph''; tudalen 152]</ref> Er bod ganddo swydd esgob parhaodd i dderbyn cyflog o swyddi eglwysig eraill nad oedd yn fodlon eu hildio. Yn ogystal â chasglu swyddi eglwysig iddo'i hun roedd hefyd yn eu rhan ag aelodau eraill ei deulu. Fel Esgob Henffordd, penododd ei fab hynaf, Charles Scott Luxmoore yn rheithor Cradley, ficer Bromyard, a Phrebendari Henffordd; ac, fel Esgob Llanelwy, ychwanegodd Darowen, Ddeon Llanelwy a Changhellor Llanelwy. <ref>[https://archive.org/details/historyofdiocese00thom/page/n261|Thomas, David Richard ''Esgobaeth Llanelwy: the history of the diocese of St Asaph''; tudalen 261]</ref> Penododd mab arall iddo, John Henry Montague, yn rheithor Chwitffordd a churad parhaol Moreton on Lugg, rheithor Marchwiail, rheithor Llanarmon-yn-iâl, Prebendari Meifod a Phrebendari Llanelwy. <ref>[https://archive.org/details/historyofdiocese00thom/page/n273 Thomas, David Richard ''Esgobaeth Llanelwy: the history of the diocese of St Asaph''; tudalen 273]</ref> Penododd, ei nai John Lukmoore (arall) yn rheithor Llanymynech.
 
== Teulu ==