Ifor Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B categoriau
ychwanegiadau, categoriau
Llinell 1:
Ysgolhaig [[Cymraeg]] oedd '''Syr Ifor Williams''' ([[16 Ebrill]] [[1881]] – [[4 Tachwedd]] [[1965]]), un o ffigyrau mwyaf blaengar ym myd astudiaethau [[Y Celtiaid|Celtaidd]] yng [[Cymru|Nghymru]] yn yr [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]]. Ei arbenigedd oedd [[llenyddiaeth Gymraeg]] gynnar, yn enwedig [[Cynfeirdd|barddoniaeth Hen Gymraeg]]. Cynhyrchodd y golygiadau safonol o nifer o destunau o bwys, yn enwedig ''Canu [[Aneirin]]'', ''Canu [[Taliesin]]'' a ''[[Pedair Cainc y Mabinogi]]''. Treuliodd ei holl yrfa ym [[Bangor|Mangor]], ger ei ddinasbentref enedigolgenedigol, lle roedd e'n athro yn Adran Gymraeg y brifysgol.
 
==Bywgraffiad==
Fe'i ganed yn Mhendinas, [[Tregarth]], ger [[Bangor]], yn fab i chwarelwr[[chwarel]]wr, John Williams a'i wraig Jane. Cafodd ei addysg yng [[Prifysgol Cymru, Bangor|Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor]], lle astudiodd Gymraeg a [[Groeg]]. Dysgodd yno tan iddo ymddeol yn [[1947]]. Penodwyd yn ddarlithydd cynorthwyol o dan yr Athro Syr [[John Morris-Jones]]. Derbyniodd gadair bersonol yn [[1920]], gan ddod yn bennaeth ar yr Adran Gymraeg yno pan fu farw Morris-Jones yn [[1929]].
 
==Cyfraniad i astudiaethau Celtaidd==
Roedd prif gyfraniad Wiilliams i [[ysgolheictod Cymraeg]] ym maes [[barddoniaeth]] gynnar. Golygodd nifer o testunau cynnar pwysig, sef y gweithiau barddol ''[[Canu Llywarch Hen]]'' (1935), ''[[Canu Aneirin]]'' (1938), ''[[Armes Prydain]]'' (1955) a ''[[Canu Taliesin|Chanu Taliesin]]'' (1960).
 
Gwnaeth gyfraniad o bwys i astudiaeth [[rhyddiaith]] Gymraeg ganoloesol hefyd. Golygodd y gweithiau rhyddiaith ''[[Breuddwyd Maxen]]'', ''[[Cyfranc Lludd a Llevelys]]'' (1910), ''[[Chwedlau Odo]]'' a ''[[Pedeir Keinc y Mabinogi]]''. Golygydd ''[[Y Traethodydd]]'' oedd ef o [[1939]] tan [[1964]] a golygydd ''[[Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd]]'' o [[1937]] tan [[1948]]. Mae ei argraffiad o'r Pedair Cainc yn dal i fod yn safonol heddiw.
 
==Rhai gweithiau eraill==
Un o hoff bynciau Ifor Williams oedd enwau lleoedd Cymraeg ac erys ei gyfrol ''Enwau Lleoedd'' (1945) yn gyflwyniad safonol i'r pwnc. Ysgrifennodd yn ogystal ''Meddwn I'' (1946), cyfres o draethodau radio poblogaidd ar bynciau amrywiol. Mae'r gyfrol ''I Ddifyrru'r Amser'' (1959) yn cynnwys nifer o ysgrifau byr amrywiol, e.e. atgofion am ei blentyndod, myfyrdodau, ac ati.
 
==Gweithiau==
Ceir llyfryddiaeth lawn o waith Ifor Williams yn y gyfrol ''Sir Ifor Williams[:] A Bibliography'', gol. Alun Eirug Davies (allbrintiwyd o ''Studia Celtica'' IV). Defnyddiol hefyd yw ''Mynegai i weithiau Ifor Williams'', gol. Thomas Parry (Caerdydd, 1939).
* ''Breuddwyd Maxen''. Bangor: Jarvis a Foster, 1908.
* ''Casgliad o waith Ieuan Deulwyn''. Bangor: Welsh Manuscripts Society, 1909.
* ''Cywyddau Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr. Gol. Ifor Williams a Thomas Roberts. Bangor: Evan Thomas, 1914.
* ''Cywyddau Iolo Goch ac eraill, 1350–1450''. Gol. Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams. Bangor: Evan Thomas, 1925 (ail argraffiad 1938).
Llinell 18 ⟶ 23:
* ''Lectures on early Welsh poetry''. Dublin: Dublin Institute of Advanced Studies, 1944.
* ''Enwau lleoedd''. Lerpwl: Gwasg y Brython, 1945.
* ''Chwedl Taliesin''. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1957.
* ''Canu Taliesin''. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1960.
 
[[Categori:Ysgolhegion Cymraeg|Williams, Ifor]]
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg|Williams, Ifor]]
[[Categori:Cymry enwog|Williams, Ifor]]
[[Categori:Genedigaethau 1881|Williams, Ifor]]
[[Categori:Marwolaethau 1965|Williams, Ifor]]