Ynys Môn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: sh:Anglesey
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 89:
Dioddefodd yr ynys ymosodiadau gan y Llychlynwyr, yn enwedig y Daniaid yn y cyfnod rhwng 950 a 1000. Dywedir i Godfrey Haroldson gymryd dwy fil o gaethion o Ynys Môn yn [[987]], a thalodd brenin Gwynedd, [[Maredudd ab Owain]], swm mawr i'r Daniaid i brynu ei bobl yn ôl o gaethiwed. Yn [[1994]],cafwyd hyd i safle archaeolegol yn [[Llanbedrgoch]] sef olion sefydliad o gyfnod y Llychlynwyr, efallai tua'r [[10fed ganrif]]. Mae cloddio archaeolegol yma dros y blynyddoedd diwethaf wedi darganfod tystiolaeth yn awgrymu fod Llychlynwyr wedi ymsefydlu yma am gyfnod.
 
[[Delwedd:HywelabOwain.JPGjpg|bawd|chwith|230px|Cofeb Hywel ab Owain ar [[Traeth Coch|Draeth Coch]] ger Pentraeth]]
 
Ymladdwyd nifer o frwydrau ar yr ynys. Yn [[1088]] ymunodd [[Hugh d'Avranches, Iarll 1af Caer|Hugh d'Avranches]], Iarll Caer gyda Hugh arall, [[Iarll Amwythig]] i geisio adennill ei diroedd yng Ngwynedd oddi ar [[Gruffudd ap Cynan]]. Enciliodd Gruffudd i Fôn, ond yna bu raid iddo ffoi i Iwerddon pan gafodd y llynges yr oedd wedi ei chyflogi gan Ddaniaid Iwerddon well cynnig gan y Normaniaid a throi yn ei erbyn. Newidiwyd y sefyllfa pan gyrhaeddodd llynges dan arweiniad Brenin [[Norwy]], [[Magnus III, Brenin Norwy|Magnus III]], a ymosododd ar y Normaniaid a lladd Hugh o Amwythig ger rhan ddwyreiniol [[Afon Menai]]. Gadawodd y Normaniad yr ynys, a'r flwyddyn ganlynol dychwelodd Gruffudd i gymeryd meddiant. Yn [[1157]], pan ymosododd [[Harri II, brenin Lloegr|Harri II]] ar [[Owain Gwynedd]], gyrrodd Harri lynges i ymosod ar Ynys Môn tra'r oedd prif fyddin y brenin yn ymosod ar hyd arfordir gogledd Cymru. Glaniodd y llynges ym Môn, ond gorchfygwyd hwy gan y Cymry lleol, gyda [[Henry FitzRoy]], mab gordderch [[Harri I, brenin Lloegr]] a [[Nest ferch Rhys ap Tewdwr]], yn un o'r lladdedigion. Yn [[1170]], lladdwyd [[Hywel ab Owain Gwynedd]] mewn brwydr yn erbyn ei frawd [[Dafydd ab Owain Gwynedd|Dafydd]] ym [[Pentraeth|Mrwydr Pentraeth]]. Ymladdwyd [[Brwydr Moel-y-don]] ar [[6 Tachwedd]] [[1282]] ar [[Afon Menai]] rhwng milwyr [[Edward I o Loegr]] a milwyr [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]]. Roedd y Saeson wedi meddiannu Môn, ond gorchfygwyd hwy pan geisiasant groesi i [[Arfon]].