Llawysgrifau Cwrtmawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Impio'r wybodlen newydd (Gwybodlen Peth ar yr hen wybodlen using AWB
ehangu
 
Llinell 3:
Casgliad sylweddol o [[llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau Cymraeg]] gwerthfawr a gasglwyd gan [[John Humphreys Davies]] o Gwrtmawr, ger [[Llangeitho]], [[Ceredigion]] yw '''Llawysgrifau Cwrtmawr'''. Maent yn rhan o gasgliad llawysgrifau [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], yn rhodd gan Davies eu hun.
 
Mae'r casgliad yn cynnwys 1,549 cyfrol amrywiol sy'n dyddio o ddiwedd [[yr Oesoedd Canol]] hyd y [[18g]]. Testunau [[llenyddiaeth Gymraeg]] yw prif gynnwys y llawysgrifau, ond ceir sawl dogfen hanesyddol hefyd. Trosglwyddwyd rhan gyntaf llawysgrifau Cwrtmawr i'r Llyfrgell Genedlaethol ym 1925 (llawysgrifau 1-50), a throsglwyddwyd y gweddill (llawysgrifau 51-1492) ar ôl marw J H Davies ym 1926.
 
Mae'r casgliad yn cynnwys llawysgrifau:
 
:John Jones (‘Myrddin Fardd’; 1836-1921)
:Peter Bailey Williams (1723-96)
:William John Roberts(‘Gwilym Cowlyd’; 1828-1904)
:Daniel Silvan Evans (1818-1903)
:teulu Richards, Darowen
 
Plasty hynafol ger Llangeitho yw Cwrtmawr (hefyd Cwrt Mawr, Cwrt-mawr). Ceir atgofion [[T. I. Ellis]] amdano yn chwarter cyntaf yr [[20g]], pan fu'n gartref i J. H. Davies, yn y gyfrol ''Crwydro Ceredigion'' ([[Cyfres Crwydro Cymru]]).<ref>T. I. Ellis, ''Crwydro Ceredigion'' (Cyfres Crwydro Cymru'', 1952), tt. 61-2.</ref>