Llanybydder: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Prif gyflogwr y cylch yw Dunbia (Dungannon Meats), sef lladd-dy a phrosesfa gig ac mae'n cyflogi hyd at 400 o bobl - y mwyafrif mawr ohonynt yn weithwyr o Wlad Pwyl a Dwyrain Ewrop. Mae hyn wedi cael cryn ddylanwad ar natur y gymuned leol. Cyn y mewnlufiad hyn, roedd tua 70% o'r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg.
 
Mae Cymuned Llanybydder yn cynnwys pentref gwledig [[Rhydcymerau]] a leolir 8.5 cilomedr i'r de-ddwyranddwyrain, dros Fynydd Llanybydder. Rhydcymerau yw pentref genedigol y bardd a chenedlaetholwr [[D. J. Williams]], un o'r tri a weithredodd yn erbyn ysgol fomio [[Penyberth]] ym 1936. Mae cyfrolau eu hunangofiant, sef Hen Dŷ Fferm (1953) ac Yn Chwech ar Hugain Oed (1959) yn cynnig portread byw o fywyd yn y pentref bach ar droad yr ugeinfed ganrif.