Cosi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: hi:खुजली
BDim crynodeb golygu
Llinell 19:
* cyflyrau ar y [[croen]], megis [[ecsema]], [[soriasis]], [[lichen planus]], [[acne rhosynnaidd]], [[gwres pigog]] (brech goslyd iawn a fydd yn ymddangos yn ystod tywydd poeth, llaith), [[llosg haul]], a [[croen sych|chroen sych]];
* heintiau, megis [[brech yr ieir]], [[twymyn goch|y dwymyn goch]], [[haint ffyngaidd]] sy'n gallu achosi cosi ar y corff ([[tarwden]]), yn yr afl, neu rhwng bysedd y traed ([[tarwden y traed]]), a [[candidasis]] sy'n achosi cosi yn rhan allanol yr [[organau rhywiol benywaidd]];
* pryfed megis [[llau corff]], [[llau pen|pen]], ac [[llau arffed|arffed]], [[gwiddonyn (arachnid)|gwiddonyn]] sy'n achosi [[clefyd y crafu]], a [[brathau a phigiadau pryfed]]; a
* [[beichiogrwydd]], lle mae cosi yn symptom cyffredin, ond gall hefyd fod yn symptom cynnar o [[colestasis obstetrig]] (a chynghorir i fenywod beichiog sy'n profi cosi i'w wirio gan [[meddyg|feddyg]] neu [[bydwraig|fydwraig]], yn arbennig yn ystod y trydydd tymor gan y bydd yn arwain at [[marwanedigaeth|farwanedigaeth]]).