Firws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
firws - sillafiad
→‎Triniaeth: Ychwanegu Italig i deitl yr erthygl using AWB
Llinell 25:
 
== Triniaeth ==
Nid oes llawer o gyffuriau penodol ar gael hyd yn oed nawr, (mae [[Tamiflu]] yn enghraifft amserol), ac am lawer o flynyddoedd nid oedd 'triniaethau' i'w cael o gwbl a allai ladd y cyfrwng heintus. Mae'r prif driniaethau'n ymwneud â lleddfu'r symptomau, e.e. defnyddio cyffuriau gwrthlidiol neu boenliniarwyr, a gorffwys a maeth da er mwyn rhoi'r cyfle gorau i system imiwnedd y person o guro'r haint.
 
Fel rheol y dull rheoli dewisol yw ataliad drwy [[imiwneiddio]] – ‘brechu’. Mae'r imiwnedd a roddir yn amrywio o ran parhad ei effeithiolrwydd. Gall brechu ddigwydd yn ystod plentyndod, neu ar adeg arall gyfleus yn achos llawer o imiwneddau hirbarhaol, ond mae angen iddo fod yn agosach mewn amser at y datguddiad tebygol yn achos imiwneddau byr hoedlog a firysau sy'n newid yn gyflym
 
==Cyfeiriadau==