Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tylwyth Teg"

Ychwanegwyd 82 beit ,  10 mis yn ôl
Angen fynhonnell
B
(Angen fynhonnell)
Chwedl a gysylltir â nifer o ardaloedd yw'r un am ddyn yn priodi un o ferched y Tylwyth Teg, ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo, neu na fyddai'n ei tharo â [[haearn]]. Yn y diwedd, yn fwriadol neu drwy ddamwain, mae'n gwneud hynny, ac mae'r ferch yn diflannu. Mae sawl fersiwn o'r chwedl hon yn gysylltiedig â llynnoedd, megis [[Llyn y Fan Fach]] yn [[Sir Gaerfyrddin]] a [[Llyn y Dywarchen, Rhyd Ddu|Llyn y Dywarchen]], [[Rhyd Ddu]]. Gallai'r Tylwyth Teg roi rhoddion i bobl oedd yn eu helpu, neu gosbi'r rhai oedd yn eu croesi.
 
Mae'r gwaharddiad ar haearn (a [[halen]] hefyd weithiau), ynghyd â'r ffaith bod nifer o'r chwedlau yn lleoli gwlad y Tylwyth Teg dan [[cromlech|siambrau claddu]] a [[gorsedd]]au (bryniau isel neu hen siambrau claddu), yn arwain rhai efrydwyr i ddamcaniaethu bod y Tylwyth yn cynrychioli atgof y Celtiaid am y bobl gyn-Geltaidd, ac felly'n gysylltiad â phobloedd [[Oes y Cerrig]].{{Citation needed|date=23 Tachwedd 2019}}
 
'Bendith y Mamau' oedd yr enw ar y Tylwyth Teg yn y de, ac mae'n bosibl bod cysylltiad rhwng yr enw hwnnw â'r [[duwies]]au Celtaidd triphlyg ac yn enwedig â'r duwiesau ym Mhrydain a [[Gâl]] a elwid yn ''[[Matres]]'' gan y [[Rhufeiniaid]]. Cedwir cof am y bodau hyn hefyd yn yr ymadroddion llafar "Bobl bach!" a "Bobl annwyl!" (ebychiad i fynegi syndod). Fel yn achos yr enwau eraill, dyma enghraifft hefyd o'r arfer mewn sawl diwylliant o beidio â chyfeirio at fodau [[arallfyd]]ol yn uniongyrchol.
 
Ceir traddodiadau am hiliogaeth arbennig o'r Tylwyth Teg yn [[Dyfed|Nyfed]] a elwir yn [[Plant Rhys Ddwfn|Blant Rhys Ddwfn]]. Dywedir eu bod yn byw mewn gwlad anweledig ym [[Bae Ceredigion|Mae Ceredigion]].{{Citation needed|date=23 Tachwedd 2019}}
 
==Llyfryddiaeth==
4

golygiad