Ynys Brydain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dileu cats dwbl Tagiau: Golygiad cod 2017 |
Cywiro lluosog |
||
Llinell 3:
Mae'n bwysig sylweddoli nad yw'r enw yn gyfystyr â thermau diweddar fel [[Prydain Fawr]] ac [[Ynysoedd Prydain]], yn yr un modd â bod gwahaniaeth pwysig rhwng ystyron yr enwau [[Brythoniaid|Brython]] a [[Prydeindod|Phrydeiniwr]]. Nid oedd y [[Brythoniaid]] yn Brydeinwyr ac nid oeddynt yn defnyddio'r enw Ynys Prydain i olygu Prydain Fawr fel y mae hi heddiw.
Cysyniad â'i wreiddiau yn hanes cynnar y Brythoniaid/Cymry oedd Ynys Brydain. Mae'n deillio o'r cyfnod [[Celtiaid|Celtaidd]] a'r cyfnod ôl-[[Rhufeiniaid|Rufeinig]] pan fu Prydain i'r de o linell yn rhedeg o [[Ystrad Clud]] i'r [[Moryd Forth|Foryd Forth]] ([[Glasgow]] - [[Caeredin]]) ym meddiant y [[Brythoniaid]], pobl Geltaidd a siaradai'r iaith [[Brythoneg|Frythoneg]]. Daeth y llwythau "[[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-Sacsonaidd]]" (
Roedd daearyddiaeth Ynys Brydain yn bur wahanol i ddaearyddiaeth y Brydain fodern. Ym [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]] cawn fod [[Bendigeidfran]] yn llywodraethu Ynys Prydain o'i lysoedd yng [[teyrnas Gwynedd|Ngwynedd]] ([[Harlech]], [[Aberffraw]] a [[Segontium|Chaer Saint yn Arfon]]). Yn y chwedl [[Cymraeg Canol]] ''[[Lludd a Llefelys]]'', cyfeirir at [[Rhydychen|Rydychen]] fel canol daearyddol yr ynys. Cleddir pen Bendigeidfran yn "y [[Gwynfryn]] yn [[Llundain]]" i warchod Ynys Brydain, ond cleddir ei chwaer [[Branwen]] ym [[Môn]]. Teyrnas Gwynedd a Llundain symbolaidd oedd dau begwn grym Ynys Brydain yn y traddodiad Cymreig/Brythonaidd felly. Gelwir tywysogion Gwynedd yn "ddreigiau Prydain" a "phriodolion Prydain" gan y beirdd. Roedd y cof am Ynys Brydain yn wydn.
|