Ysgol Gymraeg Pwll Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyffredinol: Diweddariad
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
→‎Hanes: Diweddariad. Updated.
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 41:
Cynyddodd nifer y disgyblion yn gyflym ac ym Medi 2000 derbyniwyd dau ddosbarth mynediad i'r ysgol. Gan hynny bu'n rhaid codi cabanau dros dro ar dir yr ysgol.<ref name="Estyn2005">[http://www.estyn.gov.uk/download/publication/150859.8/inspection-reportysgol-gymraeg-pwll-cochcym2005/ Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996: Ysgol Gymraeg Pwll Coch, 23-26 Mai 2005,] [[Estyn]].</ref> Yn 2006, cwblhawyd estyniad sylweddol ar gyfer yr ysgol uchaf a chyrhaeddodd yr ysgol ei llawn dwf gyda dau ddosbarth ym mhob blwyddyn yn 2008.<ref name="Estyn2011">[http://www.estyn.gov.uk/download/publication/202893.6/adroddiad-arolygiad-ysgol-gymraeg-pwll-coch-cym-2011/ Adroddiad ar Ysgol Gynradd Gymraeg Pwll Coch, 10-12 Mai 2011,] [[Estyn]].</ref>
 
Yn sgil diffyg darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ardal ehagach bu'n rhaid i'r ysgol dderbyn tri dosbarth mynediad yn 2011 a 2012 ac fe godwyd cabanau dros dro ar eu cyfer. Erbyn 2018 roedd dros 520 o ddisgyblion yn yr ysgol.
 
Mrs Meinir Howells oedd pennaeth yr ysgol o fis Ebrill 2009 tan Gorffennaf 2016. Mae Mr Christopher Newcombe yn bennaeth ers mis Medi 2016.
 
Ym mis Chwefror 2019, agorodd Canolfan Adnoddau Arbenigol, Yr Hafan, yn yr ysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu dwys. Agorwyd Yr Hafan yn swyddogol gan Y Gwir Anrh Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru, ar Ddydd Gwener 22ain o Dachwedd 2019.
 
Daw enw'r ysgol o'r Pwll Coch, sef pwll yn [[afon Elái]]. Rhoddodd y pwll ei enw i [[Pwll-coch|bentref bychan]] o'r un enw a safai ger tafarn Tŷ Pwll Coch. Mynn traddodiad fod y pwll wedi llenwi â gwaed yn dilyn [[Brwydr Sain Ffagan]] yn 1648. Nid yw'r ardal hon bellach yn rhan o ddalgylch yr ysgol.