Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ogof Paviland"

Ychwanegwyd 348 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
Ychwanegu
(Delwedd o draeth Rhosili)
(Ychwanegu)
[[Delwedd:Rhossili 06 05.jpg|bawd|dde|220px|Traeth Rhosili]]
[[Ogof]] [[cynhanesyddol|gynhanesyddol]] wedi'i lleoli ger [[Rhosili]] ar y [[Gŵyr]] ({{gbmapping|SS951807}}) yw '''Ogof Paviland''' (neu '''Ogof Pen-y-Fai'''). I fod yn fanwl gywir, maeMae'n un o gyfres o ogofâu wedi'u cysylltu, ac a fu'n gartref i ddynionbobl filoedd o flynyddoedd cyn Crist. Darganfuwyd yno fwyeill llaw o [[Hen Oes y Cerrig]], dannedd [[blaidd|bleiddiaid]] ac esgyrn [[Arth frown|eirth]].
 
Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd [[sgerbwd]] corff dynol o Hen Oes y Cerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac [[archaeoleg]]ydd cynnar [[William Buckland]] yn [[1823]] yn Ogof Twll y Gafr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch oedd hi ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21 oed ydyw. Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ''ochre'' coch, fel amddiffyn yn erbyn pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol modern (''Homo sapiens sapiens'') hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn [[Ewrop]] i gyd. Cafwyd [[penglog]] [[mamoth]] yn ei ymyl ond yn anffodus mae hynny ar goll erbyn hyn.
 
Ymhlith y darganfyddiadau diweddarach o'r ogof y mae casgliad o bennau gwaywffyn a chrafwyr croen [[callestr]], sydd efallai i'w dyddio i'r [[cyfnod Aurignasiaidd]].
 
==Cadw==
Mae'r [[heneb]] hon wedi'i chofrestru gan [[Cadw]] gyda'r Rhif SAM unigryw: GM434 <ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Dolenni allanol==
[[Categori:Hen Oes y Cerrig yng Nghymru]]
[[Categori:Penrhyn Gŵyr]]
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Pen-y-bont ar Ogwr]]
 
{{eginyn hanes Cymru}}