Canolfan Mileniwm Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle| suppressfields = cylchfa|gwlad={{banergwlad|Cymru}}}}
 
{{gwybodlen2
|enw = Canolfan Mileniwm Cymru
Llinell 26 ⟶ 25:
[[Delwedd:Ybae07LB.jpg|bawd|chwith]]
Lle ar gyfer y celfyddydau perfformiadol yw '''Canolfan Mileniwm Cymru''' a leolir yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]]. Gobeithir y bydd doniau [[opera]], bale, [[sioe gerdd|sioeau cerdd]] a [[dawns]] gorau'r byd yn perfformio yno. Costiodd £104 miliwn i'w godi; darparodd y Cynulliad Cenedlaethol rant o £37 miliwn i gyfrannu at y cost, hefyd darparwyd £30.7 miliwn gan Gomisiwn y Mileniwm, a £9.8 miliwn gan Gyngor Celfyddyd Cymru. Rhoddwyd £10 milwn arall gan [[Donald Gordon]], dyn busnes o [[De Affrica|Dde Affrica]], a daeth gweddill yr arian angenrheidiol trwy gytundeb noddiant efo Cymdeithas Adeiladu'r Principality.<ref name="Gwefan designbuild-network.com">[http://www.designbuild-network.com/projects/wales-millennium-centre/ Gwefan designbuild-network.com]</ref>
 
 
Cynlluniodd rhan cyntaf y ganolfan gan Jonathan Adams, ac yr ail rhan gan Tim Green a Keith Vince<ref name="Gwefan designbuild-network.com"/>. Dechreuodd gwaith adeiladu yn Chwefror 2002. Agorwyd rhan cyntaf yr adaeilad yn swyddogol yn Nhachwedd [[2004]] ac ail ddarn y prosiect - yn cynnwys [[Neuadd Hoddinott]] (gyda 350 o seddi) - ar 22 Ionawr [[2009]]. Cynlluniwyd Neuadd Hoddinott yn fewnol fel capel.
 
 
Yn ogystal y mae saith sefydliad celfyddydol wedi eu lleoli yno, gan gynnwys [[Urdd Gobaith Cymru]], yr [[Academi Gymreig]] [[Opera Cenedlaethol Cymru]], [[Tŷ Cerdd]], [[Diversions - Cwmni Dawns Cymru]], [[Touch Trust]] a [[Hijinx]]. Mae canolfan Urdd Gobaith Cymru yno yn cynnwys canolfan o 150 gwely i blant Cymru allu aros yno. Mae 2 theatr, un gyda 1,900 o seddi ac y llall gyda 250. Mae stiwdio dawns, neuaddau ymarfer, stiwdios recordio, siopau, bars a chaffis.
Llinell 35 ⟶ 32:
[[Delwedd:Ybae08LB.jpg|bawd|260px|Dur ar do'r adeilad]]
[[Delwedd:Ybae09LB.jpg|bawd|260px|Llechfaen aml-liw'r waliau]]
 
 
Cyfansoddwyd y geiriau ar yr adeilad gan [[Gwyneth Lewis]].<ref>[http://www.gwynethlewis.com/byw_canolfanmileniwm.shtml Gwefan Gwyneth Lewis]</ref>
 
 
Ymwelodd dros 14.75 milwn o bobl â'r ganolfan yn ystod ei degawd cyntaf.<ref>[http://www.wow247.co.uk/2015/09/10/facts-wales-millennium-centre/ Gwefan wow247]</ref>