Tân Mawr Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
anrhefn -> anhrefn |
B manion |
||
Llinell 5:
Nid yw union nifer y marwolaethau yn wybyddus, ond yn draddodiadol ystyrir y nifer i fod yn gymharol fychan, a chwech marwolaeth yn unig a gofnodwyd. Yn ddiweddar, heriwyd y gred hon ar y sail na chofnodwyd marwolaethau'r tlodion a'r dosbarth canol, ac y gallai gwres y tân fod wedi llosgi nifer o gyrff yn ulw, gan adael ychydig iawn o dystiolaeth o fodolaeth y dioddefwyr.
Dechreuodd y tân mawr ym mhopty Thomas Farriner (neu Farynor) ar [[Pudding Lane]] ychydig wedi canol nos ar ddydd Sul, 2 Medi, a lledodd yn gyflym tuag at orllewin Dinas Llundain. Ni ddefnyddiwyd un o brif dechnegau diffodd tân y cyfnod, sef creu toriadau tân drwy ddymchwel adeiladau, yn sgîl diffyg penderfyniad Arglwydd Faer Llundain, Syr Thomas Bloodworth. Erbyn i'r cyfarwyddiadau i ddymchwel adeiladau gael eu rhoi ar y nos Sul, roedd y gwynt eisoes wedi chwythu fflamau tân y popty gan greu coelcerth anferthol. Erbyn y dydd
Achosodd y drychineb broblemau cymdeithasol ac economaidd difrifol; gwelwyd cryn dipyn o basio'r bai am gyfnod hir ar ôl y digwyddiad. Anogodd Siarl II y bobl i adael Llundain a setlo rhyw le arall, am ei fod yn ofni gwrthryfel yn Llundain gan y bobl a oedd wedi colli popeth. Er gwaethaf nifer o gynigion radical, ail-adeiladwyd Llundain yn fras ar yr un cynllun stryd ag a welwyd cyn y drychineb.
|