Barddoniaeth wirebol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
creu
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
→‎Yr Oesoedd Canol: ehangu fymryn
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 7:
 
== Yr Oesoedd Canol ==
Rhennir barddoniaeth wirebol Ewrop yn ddau gyfnod, sydd yn cyfateb i'r [[Oesoedd Canol Cynnar]] (o'r 7g i'r 11g) a'r [[Oesoedd Canol Uwch]] (o'r 12g i'r 14g). Blodeuai'r oes gyntaf yn llenyddiaethau brodorol gogledd-orllewin Ewrop, yn yr ieithoedd [[Gwyddeleg]], [[llenyddiaeth Gymraeg|Cymraeg]], [[llenyddiaeth Hen Saesneg|Hen Saesneg]], a [[Norseg]]. Datblygodd y traddodiadau hyn y tu allan i ddylanwadau clasurol a Christnogol [[Eglwys Rufain]]. Cesglid ambell flodeugerdd wirebol yn yr iaith [[Lladin|Ladin]] yn yr 11g, ac eithrio'r rheiny ni ymledodd yr arddull wirebol i wledydd Lladinaidd Ewrop nes y 12g. Yn yr ieithoedd [[Hen Ffrangeg]], [[Profensaleg]], [[Portiwgaleg]], ac [[Eidaleg]], ac hefyd yn [[barddoniaeth Saesneg Canol|Saesneg Canol]] ac [[Uchel Almaeneg Canol]], themâu'r byd meidraidd ar seiliau [[moeseg Gristnogol]] a rhinweddau'r clasuron oedd yn nodweddu barddoniaeth wirebol yr Oesoedd Canol Uwch.<ref>Edward D. English, ''Encyclopedia of the Medieval World'' (Efrog Newydd: Facts On File, 2005), t. 300.</ref>
Canu gwirebol oedd un o'r ffurfiau cyffredin ar [[llenyddiaeth Gymraeg|lenyddiaeth Gymraeg]] yn ystod oesoedd [[Canu'r Bwlch]] a [[Beirdd y Tywysogion]]. Un o'r casgliadau mwyaf adnabyddus yw ''[[Englynion y Clyweit]]'' ('Englynion y Clywaid'), casgliad o [[englyn]]ion gwirebol a gyfansoddwyd tua diwedd y 12g neu ddechrau'r 13eg, yn ôl [[Ifor Williams]]. Enghraifft arall o ganu gwirebol yn y Gymraeg yw'r cyfresi o englynion 'Eiry mynydd' ('Eira mynydd'), e.e. y rhai a geir yn y gerdd 'Penyd Llywelyn a Gwrnerth':
 
=== Barddoniaeth Gymraeg ===

:Eiry mynydd, gorwyn bro,
:Dedwydd pawb wrth a'i llocho;
:Creawdr Nef a'th diango.<ref>Marged HaycpckHaycock (gol.), ''Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar'' (Cyhoeddiadau Barddas, 1994), tud. 341.</ref>
 
Mae canu natur yn elfen amlwg yn y canu gwirebol; elfen amlwg arall yw'r elfen o brofiad dynol. Dyma ran o gyfres hir sy'n cynnwys y ddwy elfen trwy ei gilydd a adnabyddir fel 'Y Gnodau' am fod pob llinell bron yn dechrau gyda'r ffurf ferfol ''gnawd'' ('arferol yw'):
Llinell 20 ⟶ 23:
:Gnawd gwedi llyn lledfrydedd.<ref>Dyfynnir gan [[Gwyn Thomas]] yn ''Y Traddodiad Barddol'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976), tud. 101. Nodiadau: ''Chweg'' = 'teg', ''llyn'' = 'diod (gadarn)', ''lledfrydedd'' = 'tristwch'.</ref>
 
=== Barddoniaeth Saesneg ===
Ymddengys gwirebau yn aml ym [[llenyddiaeth Hen Saesneg#Barddoniaeth|marddoniaeth Hen Saesneg]]. Yn yr arwrgerdd ''[[Beowulf]]'', gwasgerir gwirebau drwy draethiad y gerdd gan lunio moeswersi ar sail gweithgareddau'r arwr. Cynhwysir casgliadau o gerddi gwirebol Hen Saesneg yn [[Llyfr Caerwysg]] ac yn Sallwyr Tiberius.