Tŷ unnos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Hen draddodiad [[Cymru|Cymreig]] o adeiladu [[tŷ]], heb ganiatâd, dros nos ydy '''tŷ unnos'''.
 
Credai rhai pobl pe bai modd adeiladu tŷ ar [[tir comin|dir comin]] mewn un noson yn unig, yna byddai'r tir hynny'n eiddo iddynt ar sail [[Rhydd-ddaliad (cyfraith)|rhydd-ddaliad]]. Ceir amrywiadau i'r traddodiad hwn: y prawf i weld os oedd y tŷ wedi'i orffen oedd os oedd tân ar yr aelwyd erbyn bore trannoeth; gallai'r trigolion ehangu ar eu tir trwy daflu [[bwyell]] o bedwar cornel y tŷ. Pa le bynnag y byddai'r bwyell yn disgyn, dyma fyddai eu tir. Mae [[Tŷ Hyll]] ger [[Betws-y-Coed]] yn enghraifft o dŷ a oedd yn wreiddiol yn dŷ unnos a chafodd ei wella ac ail-adeiladu mewn blynyddoedd diweddarach.
 
== Gwreiddiau ==