Anufudd-dod sifil: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu fymryn
Tagiau: Golygiad cod 2017
Hanes
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 9:
Yr hyn sydd yn gwahaniaethu anufudd-dod sifil oddi ar dor-cyfraith arferol ydy'r cyfiawnhad moesol, didreisedd, a chyhoeddusrwydd. Oherwydd cymhelliad anhunanol honedig yr anufuddhäwr, câi anufudd-dod sifil ei ystyried yn wahanol ei fwriad i weithgareddau anghyfreithlon eraill, ac yn ôl ei gefnogwyr yn haws ei amddiffyn. Fel arfer dadleuasant bod protestiadau o'r fath er budd y gymdeithas oll, gan eu bod yn tynnu sylw at anghyfiawnderau neu broblemau cymdeithasol sydd yn effeithio ar les pawb.<ref name=Bigalke>Ron J. Bigalke, Jr, "Civil Disobedience" yn ''The Encyclopedia of Political Science'' cyfrol 1, golygwyd gan George Thomas Kurian et al. (Washington, D.C.: CQ Press, 2011), t. 236.</ref>
 
== Hanes ==
== Enghreifftiau o fudiadau sydd yn defnyddio anufudd-dod sifil ==
Bathwyd y term Saesneg ''civil disobedience'' gan yr Americanwr [[Henry David Thoreau]] yn ei ysgrif sydd yn dwyn yr enw hwnnw, a gyhoeddwyd yn 1849. Mae'n dadlau bod gan unigolyn ddyletswydd i wrthwynebu gweithredoedd anghyfiawn llywodraeth sifil.
 
=== Gandhi ===
* [[Cymdeithas yr Iaith]]
Datblygodd y syniad fodern o anufudd-dod sifil yn bennaf dan arweiniad [[Mohandas Karamchand Gandhi]], cenedlaetholwr o [[India]] a fu'n arwain yr ymdrech i ennill annibyniaeth oddi ar [[yr Ymerodraeth Brydeinig]]. Tynnodd Gandhi ar athroniaeth y Gorllewin a'r Dwyrain, gan gynnwys yr ysgrif ''Civil Disobedience'' gan Thoreau, wrth lunio ''satyagraha'', ei athrawiaeth o wrthsafiad di-drais. Arddelai ''satyagraha'' yn gyntaf yn [[De Affrica|Ne Affrica]] wrth ymgyrchu dros hawliau i'r Indiaid. Yn ddiweddarach dychwelodd i'w famwlad ac arweiniodd sawl ymgyrch ar sail ''satyagraha'', gan gynnwys y Gorymdaith Halen yn 1930.
* [[Greenpeace]]
 
* [[Gwrthryfel Difodiant]]
=== Y Mudiad Hawliau Sifil ===
* mudiad hawliau sifil Affro-Americanaidd yn [[Unol Daleithiau America]]
Mabwysiadwyd dulliau anufudd-dod sifil gan [[Americanwyr Affricanaidd]] yn y Mudiad Hawliau Sifil yn y 1950au a'r 1960au i geisio dod â therfyn i arwahanu ar sail hil yn nhaleithiau deheuol [[Unol Daleithiau America]]. Cynhaliwyd ''sit-ins'' i feddiannu busnesau hiliol yn ogystal â gorymdeithiau a boicotiau a ostegwyd gan yr awdurdodau. Prif arweinydd a lladmerydd yr anufudd-dod sifil oedd [[Martin Luther King]], a chyferbynnir ei ymgyrchoedd ef â defnydd grym gan eraill megis y [[Pantherod Duon]] a [[Malcolm X]].
 
*=== [[Cymdeithas yr Iaith]] ===
[[Delwedd:Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith, Pont Trefechan, 1963.jpg|bawd|Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Bont Trefechan, Aberystwyth, yn 1963.]]
Defnyddiwyd anufudd-dod sifil gan [[Cymdeithas yr Iaith|Gymdeithas yr Iaith]] i ymgyrchu dros yr iaith [[Cymraeg|Gymraeg]] ers y brotest dorfol gyntaf yn 1963, a hynny ar [[Pont Trefechan|Bont Trefechan]] yn [[Aberystwyth]]. Bu ymgyrchwyr hefyd yn paentio dros arwyddion ffordd unieithog.
 
=== Mudiadau amgylcheddol ===
Mae sawl mudiad amgylcheddol, gan gynnwys [[Greenpeace]] a [[Gwrthryfel Difodiant]], yn defnyddio anufudd-dod sifil i gyhoeddi eu neges.
 
== Gweler hefyd ==
* [[Gwrthwynebydd cydwybodol]]
 
== Cyfeiriadau ==