Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cernyweg"

Ychwanegwyd 37 beit ,  8 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
 
Astudiwyd Cernyweg Modern Cynnar yn y [[1700au]] gan yr ieithydd o Gymro, [[Edward Lhuyd]]. Erbyn hyn, roedd yr iaith yn diflannu'n gyflym. Mae chwedl yn dweud mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd [[Dolly Pentreath]], a fu farw ym [[1777]]. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y [[19g]]. Er iddi ddweud, yn ôl y chwedl, "''My ny vydn kewsel Sowsnek!''" — "dwi ddim isio siarad [[Saesneg]]!" — roedd hi yn gallu ychydig o Saesneg o leiaf. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd Chesten Marchant, a fu farw ym [[1676]]. Canrif yn ddiweddarach ([[1776]]), ysgrifennodd William Bodinar lythyr byr dwyieithog i'r hynafiaethydd Daines Barrington, y darn olaf o Gernyweg draddodiadol rugl a wyddys, yn ôl pob tebyg. Dyma ei ddiweddglo, ''Na ges moye vel pager po pemp en dreau nye, ell clapia Cornoack leben — poble coath, pager egance blouth''; ''Cornoack ewe oll naceaves gen poble younk'' ("Does dim mwy na phedwar neu bump yn ein tre ni, sy'n gallu sgwrsio Cernyweg ar hyn o bryd — hen bobl, pedwar ugain blwydd; Cernyweg yw angofiedig yn hollol wrth y bobl ieuanc").
 
[[Delwedd:Lether_Bodinar.jpg|bawd]]
 
== Adfywiad ==