Jillian Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Paul-L (sgwrs | cyfraniadau) →Dolenni allanol: Evans succeeds Iwan |
Waun (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 4:
Ganed hi yn [[Ystrad Rhondda]] yn y [[Rhondda]] a'i haddysgu yn [[Tonypandy|Nhonypandy]] a [[Prifysgol Abertawe|Phrifysgol Abertawe]]. Bu'n gweithio fel cynorthwydd ymchwil ym [[Politecnic Cymru|Mholitecnic Cymru]] lle enillodd radd M.Phil. Bu'n gweithio dros [[Sefydliad y Merched]] yng Nghymru am chwe blynedd cyn dod yn drefnydd gros Gymru i CHILD - Rhwydwaith Cefnogi Anffrwythlondeb Cenedlaethol.
Bu'n gadeirydd Plaid Cymru o [[1994]] hyd [[1996]], a daeth yn Aelod Seneddol Ewrop yn etholiad [[1999]], gan ddod yn ASE cyntaf y Blaid gydag [[Eurig Wyn]]. Cafodd ei hethol yn Is-Lywydd Plaid Cymru yn 2004. Ar yr 8fed o Fehefin 2010 cafodd ei hethol yn ddiwrthwynebiad i olynu [[Dafydd Iwan]] fel Llywydd y Blaid
Ym mis Ionawr 2010, cyhoeddwyd fod Jill Evans yn un o gant oedd wedi gwrthod talu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest [[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]] yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg [[S4C]], a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r [[BBC]].<ref>[http://www.golwg360.com/Hafan/cat46/Erthygl_19079.aspx Tudalen Newyddion ar Wefan Golwg360]</ref>
==Cyfeiriadau==
|