Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Defnyddiwr:Stefanik/Pwll Tywod"

Gelwir '''Friedrich Ludwig Jahn''', (ganwyd [[11 Awst]] [[1778]], Lanz, [[Brandenburg]], [[Prwsia]] - bu farw [[15 Hydref]] [[1852]], Freyburg an der Unstrut, Sacsoni Prwsia), yn ''Turnvater'' (“Tad [[Gymnasteg]]”) yr Almaen a sefydlodd y mudiad ''turnverein'' (clwb gymnasteg) yn [[yr Almaen]]. Roedd yn wladgarwr selog a gredai mai addysg gorfforol oedd conglfaen iechyd a chryfder cenedlaethol ac yn bwysig wrth gryfhau cymeriad a hunaniaeth genedlaethol.
 
==Cefndir===
Astudiodd Jahn ddiwinyddiaeth, hanes a ieitheg (1796-1802) ym mhrifysgolion Halle, [[Frankfurt an der Oder]], Göttingen, a Greifswald. Treuliodd y blynyddoedd nesaf yn tiwtora, teithio, a mynychu dosbarthiadau yn [[Jena]] a [[Göttingen]]. Yn 1809 ymgartrefodd yn [[Berlin]], lle daliodd sawl swydd ddysgu mewn ysgolion uwchradd. Yno dechreuodd raglen o ymarfer corff awyr agored i fyfyrwyr. Dyfeisiodd sawl cyfarbar a dull [[gymnasteg]] sydd dal i'w defnyddio heddiw ar gyfer ymarfer cordd a chystadlu:
* [[barrauBarrau cyfochrog]]
* [[Cylchoedd (gymnasteg)|y Cylchoedd]
* [[TrawsTrawst (Gymnasteggymnasteg)|y Trawst]]
* [[Ceffyl ***]]
* [[Bar llorweddol]]
Sefydlodd ddilyniant cryf ymhlith ieuenctid ac oedolion ac yn 1811 agorodd ei glwb gymnasteg cyntaf.<ref>https://www.britannica.com/biography/Friedrich-Ludwig-Jahn</ref> Cynhaliwyd hyn ar 18 Mehefin 1811 yn Hasenheide, Berlin gan gynnal y wers yn yr awyr agored.<ref>http://www.gymmedia.com/jahn/E_index.htm</ref>
 
==Cenedlaetholdeb==