Brad y Llyfrau Gleision: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ychwanegiad
Llinell 1:
Adroddiad ar gyflwr [[addysg]] yng [[Cymru|Nghymru]] a gomisiynwyd gan senedd [[San Steffan]] oedd '''Brad y Llyfrau Gleision'''. Cyflwynwyd yr Adroddiad terfynnol yn haf 1847. Cyfeiria lliw y llyfrau at y clawr glas a roddwyd arnynt (lliw traddodiadol papurau swyddogol llywodraeth [[Y Deyrnas Unedig|Prydain]]). Mae'r enw ei hun yn fwysair ar [[Brad y Cyllyll Hirion|Frad y Cyllyll Hirion]], pan laddwyd nifer o bendefigion y [[Brythoniaid]] trwy ddichell y [[Saeson]], yn ôl traddodiad, wedi i [[Hengist]] wahodd [[Gwrtheyrn]] i'w wledd.
 
Comisiynwyd yr Adroddiad yn dilyn cais [[William Williams]] AS Coventry ond Cymro o [[Llanpumpsaint|Lanpumpsaint]], [[Sir Gaerfyrddin]] yn wreiddiol. Yn dilyn dros degawd o anghydfod - terfysgoedd ym [[Merthyr Tudful|Merthyr]] 1831, y [[Mudiad y Siartwyr|Siartwyr]] yn [[Y Drenewydd]] a [[Casnewydd|Chasnewydd]] yn 1839 a [[Merched Beca]] trwy gydol y ddegawd cyn 1846, roedd pryder cyffredin ymysg y Sefydliad ar y pryd am sefyllfa gymdeithasol a moesol y Cymry. Teimlai nifer mai'r Gymraeg a diffyg addysg ([[Saesneg]]) oedd gwraidd nifer o'r trafferthion.