Alexander Severus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: Newid enw'r wybodlen using AWB
Llinell 5:
Ganed Alexander Severus yn ninas [[Ffenicia|Ffenicaidd]] [[Arca Cesarea]] yn [[Syria]]. Roedd yn fab i Gessius Marcianus a Julia Mammaea ac yn ŵyr i Julia Maesa. Ei enw gwreiddiol oedd Alexandrus Basianus. Roedd Julia Maesa wedi cynorthwyo i wneud [[Heliogabalus]] yn ymerawdwr, ond pan ddaeth yn amlwg na allai hi ei reoli a'i fod yn amhoblogiaidd, dechreuodd Julia weithio i wneud Alexander yn ymerawdwr. Llwyddodd i wneud i Heliogabalus ei enwi fel ei olynydd ar [[16 Mehefin]] [[221]], a newidiodd Alexander ei enw i Severus Alexander.
 
Wedi i Heliogabalus gael ei lofruddio yn [[222]] llwyddodd ei fam a'i nain i berswadio'r Senedd a'r bobl y dylid cyhoeddi Alexander, oedd ddim ond 13 oed, yn ymerawdwr. Ei fam ac yn arbennig ei nain Julia Maesa oedd yn rheoli mewn gwirionedd yn y blynyddoedd cynnar. Llwyddwyd i roi cyllid y wladwriaeth ar seiliau mwy diogel, ond arweiniodd toriadau yn y gyllideb filitaraidd at anesmwythyd yn y fyddin. Alexander oedd yr ymerawdwr cyntaf i fod a chydymdeimlad a'r Cristnogion, a dywedir ei fod yn meddwl codi temlau iddynt ac addoli [[Iesu Grist|Crist]] fel un o'r duwiau yn y pantheon Rhufeinig.
 
Priododd Alexander a Sallustia Barbia Orbiana yn [[225]] neu [[226]], ond ni bu ganddynt blant. Ddwy flynedd yn ddiweddarach alltudiwyd Sallustia i [[Africa (talaith Rufeinig)|Affrica]], ar orchymyn Julia Mammaea yn ôl pob tebyg. Yn ystod terynasiad Alexander yr oedd y [[Sassaniaid]], oedd wedi cipio ymerodraeth [[Persia]] oddi ar y [[Parthia]]id, yn magu nerth. O [[230]] ymlaen dechreuasant ymosod ar daleithiau [[Mesopotamia]]. Cododd Alexander fyddin i'w gwrthwynebu yn [[231]], ac wedi colledion enbyd ar y ddwy ochr penderfynodd y brenin [[Aradshir]] ddychwelyd y tiriogaethau yr oedd wedi eu concro.