Nellie Melba: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: Newid enw'r wybodlen using AWB
Llinell 9:
Hi oedd y person cyntaf o Awstralia i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel cerddor clasurol. Cymerodd y ffugenw "Melba" o [[Melbourne]], ei thref enedigol.
 
Astudiodd Melba ganu yn Melbourne a gwneud llwyddiant cymedrol mewn perfformiadau yno. Ar ôl briodas fer ac aflwyddiannus, symudodd i Ewrop ym 1886 i chwilio am yrfa ganu. Astudiodd ym [[Paris|Mharis]] ac yn fuan daeth yn llwyddiannus yno ac ym [[Brwsel|Mrwsel]]. Ym 1888 enillodd enw fel y soprano ysgafn flaenllaw yn [[Llundain]] yn y [[Tŷ Opera Brenhinol|Opera Brenhinol Eidalaidd]], [[Covent Garden]]. Fe wnaeth ei debut yn y [[Metropolitan Opera]] yn [[Efrog Newydd]] ym 1893.
 
Yn ystod [[y Rhyfel Byd Cyntaf]], cododd Melba symiau mawr o arian ar gyfer elusennau rhyfel. Dychwelodd i Awstralia yn aml yn ystod yr 20g, gan ganu mewn opera a chyngherddau a dysgu canu ym [[Melbourne Conservatorium]]. Parhaodd i ganu tan fisoedd olaf ei bywyd a gwneud llawer o ymddangosiadau "ffarwel". Roedd ei hangladd yn ddigwyddiad cenedlaethol pwysig.