Jorge Edwards: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
→‎top: Newid enw'r wybodlen using AWB
Llinell 2:
[[Nofelydd]] a [[beirniad llenyddol]] [[Sbaeneg]] a [[diplomydd]] [[Tsileaid]]d yw '''Jorge Edwards''' (ganwyd [[29 Gorffennaf]] [[1931]]) sy'n nodedig am ei hunangofiant o'i gyfnod yn llysgennad [[Tsile]] i [[Ciwba|Giwba]], ''Persona non grata'' (1973).
 
Ganwyd yn [[Santiago de Chile]] i deulu o dras [[Cymry|Gymreig]]. Derbyniodd radd yn y gyfraith o [[Prifysgol Tsile|Brifysgol Tsile]] yn 1958 ac ymunodd â'r gwasanaeth diplomyddol. Danfonwyd gan y llywodraeth i astudio gwyddor gwleidyddiaeth ym [[Prifysgol Princeton|Mhrifysgol Princeton]] yn 1959. Yn ystod ei yrfa lenyddol gynnar cyhoeddodd sawl casgliad o ffuglen fer, gan gynnwys ''El patio'' (1952), ''Gente de la ciudad'' (1961), ''Las máscaras'' (1967), a ''Temas y variaciones'' (1969), sy'n ymwneud â chymeriadau dosbarth-canol sy'n gweithio yn y [[biwrocratiaeth|fiwrocratiaeth]]. Mae ei nofelau hefyd yn ymdrin â bywyd y dosbarth canol a themâu gwleidyddol, yn eu plith ''El peso de la noche'' (1965), ''Los convidados de piedra'' (1978), ''El museo de cera'' (1981), ''La mujer imaginaria'' (1985), ''El anfitrión'' (1987), ac ''El origen del mundo'' (1996).
 
Yn ei lyfr ''Persona non grata'', sy'n ymwneud â'i brofiadau yn llysgennad i Giwba yn nechrau'r 1970au, mynegodd Edwards feirniadaeth o lywodraeth sosialaidd [[Fidel Castro]]. Derbyniodd ymateb cymysg gan lenorion eraill ar draws [[America Ladin]], nifer ohonynt yn aelodau'r adain chwith.