Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Néstor Perlongher"

Lleihawyd o 1 beit ,  3 mis yn ôl
→‎top: Newid enw'r wybodlen using AWB
(#wici365)
Tagiau: 2017 source edit
 
(→‎top: Newid enw'r wybodlen using AWB)
Cyhoeddodd chwe chyfrol o gerddi sy'n nodweddiadol o farddoniaeth newydd-faróc. Mae ei benillion [[erotig]] yn debyg i weithiau'r beirdd Ciwbaidd [[Lezama Lima]] a [[Severo Sarduy]], a'i gerddi diweddarach yn archwilio perlewyg cyfriniol. Enillodd Wobr Boris Vian am ei ail gyfrol o farddoniaeth, ''Alambres'', yn 1987.<ref>Jorge Schwartz, "Perlongher, Néstor" yn ''Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003'', golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 429.</ref>
 
Treuliodd ddeng mlynedd olaf ei oes yn São Paulo yn addysgu [[anthropoleg]] ym Mhrifysgol Campinas ac yn astudio [[rhywioldeb]]. Cyhoeddodd ddau lyfr ysgolheigaidd yn [[Portiwgaleg|Bortiwgaleg]] yn 1987: ''O negócio do miché'' am buteindra gwrywaidd yn São Paulo, ac ''O que é Aids'' am yr afiechyd a fu'n dioddef ohono. Enillodd Wobr Guggenheim yn 1992 am ei brosiect i lunio ''auto sacramental'' (rhyw fath o [[drama firagl|ddrama firagl]]), gwaith a fu'n anorffenedig ganddo. Bu farw yn São Paulo o [[AIDS]] yn 42 oed.
 
== Llyfryddiaeth ==
359,155

golygiad