Morgan Owen (bardd a llenor): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ychwanegu gwobr Michael Marks
Llinell 2:
 
Graddiodd gyda BA Cymraeg o [[Prifysgol Caerdydd|Brifysgol Caerdydd]] yn 2016,<ref>https://www.cardiff.ac.uk/cy/news/view/387391-celebrating-on-graduation-day</ref> ac MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn 2017, hefyd o Brifysgol Caerdydd, gan ymchwilio i ofodoldeb cerddi Dafydd ap Gwilym mewn perthynas â ''locus'' y goedwig.<ref>[http://discover.library.wales/primo_library/libweb/action/display.do?fn=search&indx=1&tabs=detailsTab&dscnt=1&recIds=44NLW_ALMA21935554720002419&vid=44WHELF_NLW_VU1&highlight=true&institution=44WHELF_NLW&tab=tab1&prefLang=en_US&dstmp=1547979395961&elementId=0&frbrVersion=&query=any,contains,gofodoldeb&search_scope=CSCOP_EVERYTHING&scp.scps=scope:(44WHELF_NLW),primo_central_multiple_fe&displayMode=full&onCampus=false&renderMode=poppedOut&ct=display&bulkSize=10&recIdxs=0&displayField=title&vl(235331552UI0)=any&doc=44NLW_ALMA21935554720002419&dym=true&vl(freeText0)=gofodoldeb&vid=44WHELF_NLW_VU1&backFromPreferences=true discover.library.wales;] adalwyd 28 Ionawr 2019.</ref>
 
Ym mis Rhagfyr 2019, enillodd Wobr Michael Marks am Farddoniaeth mewn Iaith Geltaidd am ei ''gasgliad moroedd/dŵr.''
 
== Barddoniaeth ==
Mae'n rhan o brosiect 'Awduron wrth eu Gwaith' [[Gŵyl y Gelli]].<ref>https://www.hayfestival.com/writers-at-work/</ref> Fis Hydref 2018, ef oedd un o bedwar bardd a gymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru,<ref>https://www.literaturewales.org/our-projects/her-100-cerdd/</ref>, ynghyd ag [[Osian Owen]], [[Caryl Bryn]], a [[Manon Awst]]; a'r un flwyddyn, ef oedd bardd preswyl Arddangosfa Bensaernïaeth [[Y Lle Celf]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018]]. Mae wedi cyhoeddi gwaith yn ''[[O'r Pedwar Gwynt (cylchgrawn)|O'r Pedwar Gwynt]]'',<ref>https://pedwargwynt.cymru/safle/tag/Morgan+Owen</ref>, ''[[Barddas (cylchgrawn)|Barddas]]'', ac ''[[Y Stamp]]'', ymysg llefydd eraill. Enillodd Dlws Coffa D Gwyn Evans yn 2017 a 2018,<ref>https://www.barddas.cymru/bardd/morgan-owen/</ref> sef tlws a roddir gan ''[[Barddas (cylchgrawn)|y Gymdeithas Gerdd Dafod]]'' am y gerdd orau mewn cystadleuaeth i feirdd dan 25 oed. Ym mis Ebrill 2018, dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Gerallt gan Y Gymdeithas Gerdd Dafod i fynychu cwrs cynganeddu dwys yn y Tŷ Newydd; ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn, fe’i comisiynwyd gan y [[Y Senedd (adeilad y Cynulliad)|Y Senedd]] i gyfansoddi cerddi yn ymateb i nodweddion pensaernïol yr adeilad. Fe'i penodwyd yn Fardd y Mis [[BBC Radio Cymru]] ar gyfer mis Ionawr 2019.<ref>https://www.bbc.co.uk/programmes/p06x0jww</ref>
 
Lansiwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, pamffled dan y teitl ''moroedd/dŵr'', yng [[Gŵyl Arall|Ngŵyl Arall]], Caernarfon, fis Gorffennaf 2019. Cerddi am foroedd a dyfrffyrdd yw cynnwys y pamffled; ceir yn y casgliad fyfyrio ynghylch y ffin anelwig rhwng afonydd a'r môr, a'r modd y gall aberoedd fod yn gyfrwng i brofiadau dyn. Cyhoeddwyd y pamffled gan [[Cyhoeddiadau'r Stamp|Gyhoeddiadau'r Stamp]], ac mae'n cynnwys delweddau gan yr artist [[Timna Cox]] mewn ymateb i rai o'r cerddi.<ref>{{Cite web|title=Cerdd a chyhoeddiad: moroedd/dŵr - Morgan Owen|url=https://www.ystamp.cymru/single-post/2019/07/03/Cerdd-a-chyhoeddiad-moroeddd%C5%B5r---Morgan-Owen|website=Cylchgrawn y Stamp|access-date=2019-07-15|}}</ref> Enillodd y casgliad hwn wobr Michael Marks am Farddoniaeth mewn IeithoeddIaith CeltaiddGeltaidd yn Rhagfyr 2019.<ref>{{Cite news|title=Gwobr genedlaethol i fardd o Ferthyr|url=https://www.bbc.com/cymrufyw/50732451|date=2019-12-11|access-date=2019-12-11|language=en-GB}}</ref>
 
Ym mis Awst, 2019, cyhoeddwyd taw ef oedd ennillydd [[Her Gyfieithu]] [[Cyfnewidfa Lên Cymru]]/[[PEN Cymru]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019]].<ref>{{Cite web|title=Her Gyfieithu 2019: Cyhoeddi’r Enillydd – Wales PEN Cymru|url=http://walespencymru.org/her-gyfieithu-2019-cyhoeddir-enillydd/|access-date=2019-08-09|}}</ref> Ym mis Medi 2019, enillodd gadair Eisteddfod [[Cwmystwyth]], gyda cherdd yn y wers rydd ar y testun 'Bro'; fis yn ddiweddarach, enillodd gadair Eisteddod Bancffosfelen a Chrwbin.