Llangwm, Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tomen Maesmor
llun arall
Llinell 1:
[[Delwedd:Llangwm village - geograph.org.uk - 181855.jpg|250px|bawd|Llangwm]]
[[Delwedd:Memorial to the Tithe Martyrs of Llangwm - geograph.org.uk - 366183.jpg|bawd|Cofeb i Ferthyron Rhyfel y Degwm, Llangwm.]]
Pentref bychan a chymuned wledig yw '''Llangwm''', sy'n gorwedd yn ne-ddwyrain [[Conwy (sir)|bwrdeistref sirol Conwy]], [[Cymru]]. Fe'i lleolir ar lôn fynydd tri-chwarter milltir o'i chyffordd ar yr [[A5]], tair milltir i'r de o [[Cerrigydrudion|Gerrigydrudion]]. Mae'r pentref tua 250m uwch lefel y môr, ar gyfartaledd.
 
Mae Llangwm yn un o gymunedau rhanbarth hanesyddol [[Uwch Aled]]. Bu'n rhan o'r hen [[Sir Ddinbych]] gynt ac wedyn sir [[Clwyd]]. Rhed ffrwd fechan afon Medrad trwy'r pentref i [[afon Ceirw]]. I'r gorllewin mae ffordd yn cysylltu Llangwm â phentref bychan [[Gellioedd]]. I'r de mae'r tir yn codi i gopa moel Foel Goch (2004 troedfedd). Mae [[Pigyn Benja]] (neu Garnedd Benjamin ar fapiau OS) yn 522 metr o uchder ac i'r de-de-ddwyrain o'r pentref.
 
Ceir [[mwnt a beili|hen domen]] amddiffynol o'r [[Oesoedd Canol]] ger [[Maesmor]], o'r enw [[Tomen Maesmor]], tua milltir i lawr yr A5. Roedd y pentref yn flaenllaw iawn yn [[Rhyfel y Degwm|Rhyfeloedd y Degwm]].
 
==EnwogionPobl o Langwm==
*[[Huw Jones]] ('Huw Jones o Langwm'), a anwyd yn Llangwm ar ddechrau'r [[18fed ganrif]].
*[[Hugh Evans]] (1854-1934), cyhoeddwr ac awdur. Mae ei gyfrol enwog ''[[Cwm Eithin]]'' yn seiliedig ar ei brofiad o fywyd amaethyddol y fro.