Kilmarnock a Loudoun (etholaeth seneddol y DU): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 21:
Mae '''Kilmarnock a Loudoun''' yn etholaeth Sirol yn [[yr Alban]] ar gyfer [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Tŷ'r Cyffredin]], y DU, sy'n ethol un [[Aelod Seneddol]] (AS) drwy'r [[system etholiadol 'y cyntaf i'r felin']]. Yn 1983 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn y siroedd canlynol: [[Dwyrain Swydd Ayr]], [[Gogledd Swydd Ayr]] a [[De Swydd Ayr]]. Mae'r etholaeth yn cynnwys hanner gogleddol Dwyrain Swydd Ayr a'r trefi [[Kilmarnock, yr Alban|Kilmarnock]] a [[Loudoun]]. Ceir etholaeth arall, o'r un enw sy'n ethol cynrychiolydd ar gyfer [[Senedd yr Alban]], ond nid yw'r ffiniau'n cydfynd yn union.
 
Cynrychiolir yr etholaeth, ers [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015|Etholiad Cyffredinol, Mai 2015]] gan [[Alan Brown]], [[Plaid Genedlaethol yr Alban]] (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.<ref>[http://www.bbc.co.uk/news/election/2015/results/scotland Gwefan y BBC;] adalwyd 8 Mai 2015</ref> Yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017]], daliodd ei afael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019|2019]].
 
==Aelodau Seneddol==