Ffotosynthesis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 25:
 
====Cadwyn cludo electronau====
Mae’r derbynnydd electron yn pasio’r electronnau egni uchel i system o gludwyr ar lefelau egni is. Mae’r gyfres o adweithiau ocsido-gostyngiad yn rhyddhau meintiau bach o egni sy’n pweri’r [[cludiant actif]] o brotonau ar draws pilen y thylacoid i mewn i’r lwmen. Mae hyn yn creu [[graddiant electrocemegol]] ar daws y bilen gyda [[crynodiad|chryondiad]] uchel o brotonau y tu mewn i’r lwmen a chrynodiad isel yn y stroma. Yn y bilen mae yna ronynnau protein sy’n cynnwys yr ensym ATP synthas. Llif y protonnau o'r lwmen i'r stroma drwy’r gronynnau hyn sy’n pweru’r synthesis o ATP:
:ADP + Pi → ATP Δ''H''<sub>a</sub> = 30 kJ mol<sup>-1</sup>
Ar ddiwedd y gadwyn o gludwyr electronau mae yna system gynhaeafu arall sy’n ail-hybu’r electronau i [[cwantwm|lefelau egni]] uwch gan amsugno dau [[ffoton]]. Mae hyn yn rhoi ddigon o egni i'r electronau i ostwng NADP i NADPH2.
:2e<sup>-</sup> + 2H<sup>+</sup> + NADP → NADPH<sub>2</sub>
Mae’r ffotolysis o ddŵr yn helpu cadw crynodiad uchel o brotonau yn y lwmen, ac mae gostyngiad NADP i NADPH<sub>2</sub> yn helpu cadw crynodiad isel o brotonau yn y stroma.
 
==Y broses dywyll==