Melun: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Cerflun o [[Jacques Amyot o flaen yr ''hôtel de ville''.]] '''Melun''' yw prifddinas ''département'' [[Seine-et-Marne...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:17, 23 Ionawr 2011

Melun yw prifddinas département Seine-et-Marne yn région Île-de-France. Gyda pgoblogaeth o 37,835 yn 2007, hi yw trydydd dinas Seine-et-Marne o ran poblogaeth, ar ôl Chelles a Meaux.

Cerflun o Jacques Amyot o flaen yr hôtel de ville.

Saif Melun 41 km i'r de-ddwyrain o ddinas Paris, ger afon Seine. Mae rhan o'r ddinas ar ynys yn y Seoune, yr île Saint-Étienne.

Ceir cogfnod o'r ddinas yn y cyfnod Galaidd fel Melodunum. Dyddia'r enw modern o'r 6ed ganrif. Byddai'r brenhinoedd Capetaidd cynnar yn aros yn Melun yn aml, ac adeiladwyd castell yma. Daeth Abélard yma yn 1102, wedi iddo gael ei yrru o Baris. Yn 1420, cipiwyd y ddinas gan y Saesmon a'r Bwrgwyniaid wedi gwarchae hir. O'r gwarchae yma y cafodd y ddinas ei harwyddair, Fida muris usque ad mures ("Ffyddlon i'r muriau hyd at lygod mawr", hynny yw, hyd at fwyta llygod mawr.)