Siôn Corn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 15:
 
==Siôn Corn Cymraeg==
Santa Clôs byddai'r Cymreigiad o'r traddodiad a'r cymeriad Santa Claus/Father Christmas. Rhaid aros nes ysgrif gan [[J. Glyn Davies]] yn 1922 am y cofnod cynharaf o'r enw Cymraeg ''Siôn Corn'' am y cymeriad Nadolig.<ref>https://www.youtube.com/watch?v=AWVKzdyWRps</ref> Mae'n ymddangos mewn cyfrol o'r enw ''Cerddi Huw Puw'' gyda'r gerdd 'Pwy sy'n Dwad dros y Bryn'. Yn y cynnwys mae'n dweud 'Siôn Corn', ac wedyn mewn cromfachau, 'Santa Clôs Cymraeg'. Magwyd J. Glyn Davies yn [[Lerpwl]] yn yr 1870au ac roedd wedi tynnu ar traddodiad deuluol neu draddodiad lleol o ardal ei dad yn [[Edern]], Penrhyn Lŷn (mae'n anodd dweud pa un) lle fyddai ei dad yn dweud fod "Siôn Corn yn y simnau ac mae o'n gwrando ar bob dim ti'n ddweud". Yn wahanol i'r Siôn Corn cyfoes felly, roedd y Siôn Corn yma yn byw yn y simnau drwy'r flwyddyn, ac yn ffordd o gael plentyn i'r gwely ac yn dda drwy'r flwyddyn.
 
Cafwyd darluniad o Siôn Corn yn llyfr enwog, [[Llyfr Mawr y Plant]] yn 1931 ond dydy ddim nes 1939 pan ceir y cyfeiriad cyntaf iddo yn [[Cymru'r Plant]] cylchgrawn yr [[Urdd Gobaith Cymru|Urdd]].